8 Cais Rhif C17/1266/16/LL Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor PDF 294 KB
Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Gosod mast telathrebu 17.5
medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd a 2 gaban offer
a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd
Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r
safle
a)
Amlygodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu bod y cais yn un i osod tŵr telathrebu uchder ar dir amaethyddol garw i’r
gorllewin o ffin ddatblygu Pentref Tregarth. Nodwyd y byddai'r tŵr ar
ffurf 'monopole', wedi ei osod ar lawr o goncrid gyda 3 antenna a 2 ddysgl
trawsyriant ar ei ben; 3 cabinet offer ger ei waelod, a ffens 1.2m o uchder o’i
gwmpas i greu compownd. Y bwriad yw y bydd dau
gwmni, megis Telefónica UK Cyf. (O2) a Vodafone Cyf.
yn defnyddio’r cyfleuster i wella darpariaeth 2G a 3G a chynnig gwasanaeth 4G
oherwydd diffyg yn y ddarpariaeth leol bresennol. Ategwyd bod yr ymgeisydd yn
ceisio cwrdd gyda dyhead Llywodraeth Cymru o sicrhau gwell isadeiledd digidol
mewn cymunedau gwledig.
Atgoffwyd yr Aelodau bod y penderfyniad ar y cais yng
nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 26/02/18 wedi ei ohirio er
mwyn ymweld â’r safle. Yn
y cyfarfod hwnnw gwnaed cais
gan yr Aelodau i’r ymgeisydd ymateb
i rai o’r materion a godwyd yn ystod
y drafodaeth a chyfeiriwyd
at yr ymateb hynny yn adran
1.7 o’r adroddiad. Gohiriwyd y cais am yr
ail dro ym Mhwyllgor 16/04/18 er mwynail drefnu
ymweliad safle (yr ymweliad cyntaf wedi ei ohirio oherwydd tywydd garw). Amlygwyd bod gohebiaeth gan wrthwynebydd yn cwestiynu
dilysrwydd y broses o ddelio
gyda’r cais wedi ei dderbyn a chyfeiriwyd at yr ymateb yn adran 1.8 o’r adroddiad.
Nodwyd, yng nghyd-destun asesu’r cais mai mwynderau gweledol a materion
bioamrywiaeth oedd y prif ystyriaethau cynllunio perthnasol. Derbyniwyd y byddai’n
anorfod i’r strwythur arfaethedig fod yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus oherwydd
yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored i sicrhau y byddai’n gweithio i’w
gapasiti yn llawn. Nodwyd gyda’r safle arfaethedig yn
un coediog, byddai’r tŵr yn weddol guddiedig o’r rhan fwyaf o fannau cyhoeddus
ac na fyddai yn goruchafu na gormesu unrhyw eiddo
preifat. Ategwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel eisoes yn bodoli yn yr
ardal sydd yn cynnwys coed sylweddol, polion llinellau ffôn a rhes o beilonau
trydan. Amlygwyd bod yr Uned Bioamrywiaeth wedi gofyn am adroddiadau ychwanegol
ynghylch yr effaith ar ecoleg a choed gan fod y datblygiad wedi ei leoli ar
safle o dir amaethyddol sydd heb ei wella
a bod coed brodorol aeddfed gerllaw.
Ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol a’i fod yn cydymffurfio gyda gofynion
y polisïau perthnasol.
b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr aelod
lleol (nad oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol;
·
Nad oedd y cais yn cydymffurfio
gyda pholisïau - yn groes i
TAN19
·
Nad oedd sylw digonol wedi
ei roi i ardaloedd
o dirwedd arbennig
· Nad oedd asesiad gwrthrychol wedi ei gwblhau - y cynnig yn dibynnu ar ddehongliad gwrthrychol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8
5 Cais Rhif C17/1266/16/LL - Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor PDF 278 KB
Gosod mast telathrebu
17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1
cabinet mesurydd a gwaith atodol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Gosod mast telathrebu 17.5 medr
o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd
a gwaith atodol.
(a) Adroddodd
y Rheolwr Cynllunio yn seiliedig ar
bryderon sydd wedi eu codi
yn lleol am ddryswch yr ymweliad safle
a’r tywydd garw ar ddiwrnod
yr ymweliad, awgrymwyd i’r Pwyllgor Cynllunio ohirio cymryd penderfyniad ar y cais er
mwyn cynnal ail-ymweliad safle, er galluogi’r Aelod
Lleol i fod
yn rhan ohono.
(a)
Gwnaed y sylwadau canlynol gan yr
Aelod Lleol (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Nad oedd y Pwyllgor Cynllunio
wedi bod ar y safle cywir sef ar dir fferm a sut felly ellir trafod y cais
·
Dylai’r Pwyllgor Cynllunio
gael eu harwain gan swyddogion ar hyd Llwybr rhif 12 tuag at safle’r ffynnon
sydd ddim yn dir i Bryn Cul
·
Bod y safle lle bwriedir gosod
y polyn yn llawer uwch na lle roedd yr aelodau yn sefyll yn ystod yr ymweliad
safle, ac o’r herwydd yn gamarweiniol i’r lygaid oherwydd bod y coed a’r mieri
yn derfyn rhwng y ddau safle
(b)
Cynigwyd ac eilwyd i ail-ymweld â’r safle.
PENDERFYNWYD gohirio cymryd penderfyniad ar y cais a gofyn i’r Uwch
Reolwr Gwasnaeth Cynllunio drefnu ail-ymweliad â’r safle.
5 Cais Rhif: C17/1266/16/LL - Tir yn Bryn Cul, 2 Tal Gae, Tregarth, Bangor PDF 271 KB
Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd â 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Dafydd Owen
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Gosod mast telathrebu 17.5 medr o uchder gan
gynnwys 3 antenna a 2 ddysgl darlledu ynghyd a 2 gaban offer a 1 cabinet mesurydd a gwaith atodol.
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar gefnen o dir
uchel, coediog, uwchlaw cefnffordd yr A55. ‘Roedd y cynllun hwn yn ddiwygiad o
gynllun a gyflwynwyd yn flaenorol ar safle oddeutu 200m i’r de a dynnwyd yn ei
ôl oherwydd pryderon ynghylch yr effaith posibl ar heneb restredig gyfagos.
Tynnwyd sylw y derbyniwyd sylwadau yn gwrthwynebu’r cais yn
ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus ar sail pryder ynghylch yr effeithiau posibl ar
fywyd gwyllt, effaith weledol niweidiol, niwed i’r dirwedd hanesyddol
ddynodedig, effaith niweidiol ar henebion cyfagos, niwed posibl i goed gerllaw,
niweidiol i fwynderau defnyddwyr llwybr cyhoeddus prysur gerllaw ac fe allai’r
datblygiad fod yn niweidiol i’r ffynnon hanesyddol gerllaw gan lygru’r dŵr
a lifai ohono.
Nodwyd bod Polisi PS 3 y CDLl
yn gefnogol i’r ddarpariaeth o gyfleusterau newydd i estyn neu wella
cysylltiadau technolegau cyfathrebu ym mhob rhan o ardal y Cynllun yn amodol ar
fesurau amddiffyn priodol.
Adroddwyd y cyflwynwyd datganiad o
gydymffurfiaeth gyda gofynion yr ICNIRP (International Commission
on Non-Ionizing Radiation Protection) fel rhan
o’r cais, a oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i gydymffurfio
gyda chanllawiau’r ‘ICNIRP,’ sef y canllaw rhyngwladol cydnabyddedig ar gyfer y
math yma o ddatblygiad.
Gyda’r math yma o ddatblygiad, roedd yn anorfod
y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weledol o fannau cyhoeddus
oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y
byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Er hynny fe gredir, yn yr achos yma, byddai lleoliad coediog y safle yn
golygu byddai’r tŵr yn weddol guddiedig o’r rhan fwyaf o fannau cyhoeddus.
Ar y cyfan, credir byddai’r tŵr yn annhebygol o gael effaith amlwg hir
dymor ar fwynderau gweledol yr ardal leol.
Nodwyd bod gwybodaeth wedi ei gyflwyno gyda’r
cais yn rhestru’r safleoedd eraill a ystyriwyd cyn penderfynu ar y safle yma.
Gwelir fod y rhain wedi cael eu diystyru am amrywiol resymau. Cydnabyddir felly
fod ymgais wedi ei wneud i ganfod safleoedd eraill ond mai’r safle hwn oedd
wedi ei adnabod fel yr un mwyaf addas ar gyfer y bwriad yn sgil ystyriaeth o
faterion ymarferol, technegol a mwynderol.
Ni chredir bod unrhyw effeithiau niweidiol
arwyddocaol i fwynderau trigolion lleol yn debygol o ddeillio o’r datblygiad.
Nodwyd bod y safle yn addas o ran ei leoliad ac yn dderbyniol o safbwynt ei
effaith ar fwynderau cyffredinol a phreswyl yr ardal.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt
polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio
ar yr hawl
i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn siarad ar
ran trigolion lleol a oedd yn gwrthwynebu’r
bwriad;
·
Bod
ail-leoli safle’r mast telathrebu yn newid
materol yn hytrach na newid
i’r bwriad;
· Nid oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5