10 Cais Rhif C17/1094/36/LL The Cross Foxes, Garndolbenmaen, Gwynedd PDF 352 KB
Newid defnydd o dŷ tafarn i
dŷ preswyl
AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen
Churchman
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Newid
defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol
a dderbyniwyd
a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi y gohiriwyd y
penderfyniad ym
mhwyllgor Ebrill 16eg 2018 er mwyn gofyn
i gynrychiolwyr Cymdeithas Cymunedol Garndolbenmaen am wybodaeth bellach, ar ffurf
pecyn ariannol realistig, ar gyfer
eu bwriad o brynu’r adeilad a’i gadw
fel tŷ tafarn, ynghyd a thystiolaeth o gynnig ariannol rhesymol i brynu’r eiddo.
Ers y penderfyniad i ohirio, mynegwyd bod y cais bellach yn
destun apêl ffurfiol i’r Arolygaeth
Gynllunio am ddiffyg penderfyniad o fewn yr amserlen briodol.
Nodwyd bod trefn ffurfiol
i ddelio gydag apêl am ddiffyg
penderfyniad ac amlygwyd
bod y rheoliadau perthnasol
o fewn Deddfwriaeth Cynllunio yn nodi’r
canlynol:
Ar gyfer apeliadau Cynllunio ble mae
apêl wedi ei wneud am fethiant
yr Awdurdod Cynllunio Lleol i wneud
penderfyniad ar y cais o fewn y cyfnod
priodol, mae cyfnod o 4 wythnos o dderbyn yr apêl ble
mae cyfle i’r Awdurdod Cynllunio
Lleol barhau i benderfynu’r cais.
Yn yr achos yma, cyflwynwyd yr apêl i’r
Arolygaeth Cynllunio ar y 18fed o Ebrill gyda’r angen am benderfyniad erbyn Mai 16eg. Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais hefyd wedi ei ohirio ym
Mhwyllgor Cynllunio 26ain o
Chwefror 2018 er mwyn
rhoi cyfle i’r gymdeithas gymunedol leol gyflwyno tystiolaeth o’u bwriad i
brynu’r adeilad er mwyn cadw
ei ddefnydd fel tŷ tafarn.
Nodwyd, ei bod yn rhesymol ystyried nad oedd y defnydd
presennol bellach yn hyfyw fel
tafarn. Derbyniwyd gwybodaeth gyda’r cais gan gwmni
o gyfrifwyr yn cadarnhau bod dirywiad wedi bod ers rhai
blynyddoedd yn nhrosiant y busnes.
Mynegwyd bod argymhelliad y swyddogion
yn glir i
ganiatáu y cais, ond cyfeiriwyd at dri opsiwn, oedd
wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad,
yn amlygu'r risgiau i’r Cyngor,
oedd yn agored
i’r Pwyllgor eu hystyried.
b) Cynigiwyd ac
eiliwyd i ganiatáu y cais yn unol ag argymhelliad
y swyddogion fyddai’n golygu fod yr
apêl yn dod
i derfyn heb unrhyw weithrediad
pellach gan osgoi costau i’r
Cyngor.
c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol:
·
Bod
asedau cymunedol yn cael llawer
mwy o sylw o dan y Localism Act yn Lloegr
·
Y
Pwyllgor eisoes wedi cynnig 9 wythnos
i’r Gymdeithas Gymunedol - dylid cadw at eu gair
a chadw at yr amserlen
ch) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r amserlen, nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth
Cynllunio bod
y Pwyllgor yn cael eu gorfodi
i drafod y cais oherwydd trefniadau apêl. Ategodd y buasai yn dymuno gweld
y dafarn yn parhau fel tafarn, ond
gyda’r busnes wedi bod ar y farchnad ers 2011, nid oedd prynwr wedi dod
ymlaen. Nododd bod y Gymdeithas Gymunedol yn ceisio prynu'r safle, ond nad
oedd pecyn ariannol realistig na chynnig cadarn
wedi ei wneud.
d) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â thebygolrwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10
5 Cais Rhif C17/1094/36/LL - The Cross Foxes, Garndolbenmaen PDF 340 KB
Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman
Dolen i’r dogfennau
cefndir perthnasol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ
preswyl.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 26 Chwefror 2018 er mwyn rhoi cyfle i grŵp cymunedol lleol
gyflwyno tystiolaeth o’u bwriad i brynu’r adeilad er mwyn cadw ei ddefnydd fel
tŷ tafarn.
Tynnwyd
sylw’r Pwyllgor Cynllunio na fyddai’r bwriad yn golygu unrhyw newid strwythurol
allanol a chyfeirwyd at weddill manylion y datblygiad
o fewn yr adroddiad ynghyd â’r sylwadau hwyr ar y ffurflen a gyflwynwyd i’r
Pwyllgor. O safbwynt egwyddor y
datblygiad, tynnwyd sylw at baragraffau 5.1 a 5.2 a oedd yn asesu meini prawf y
polisi ISA2 ac wedi pwyso a mesur y dystiolaeth a gyflwynwyd yn erbyn y polisi
a’r ffaith ei bod yn bur anhebygol ar sail y
wybodaeth ddaeth i law bod y defnydd fel tafarn am ailsefydlu yn yr adeilad
oherwydd costau a natur cymdeithasol, ystyrir bod cyfiawnhad wedi ei ddangos
dros newid y defnydd.
Derbyniwyd sylw gan y Gwasanaeth
Datblygu Economaidd yn cadarnhau bod sawl her yn wynebu busnesau tafarn gwledig
fel yma a bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi ei asesu ac yn cadarnhau nad oedd y
dafarn yn hyfyw yn ei ffurf bresennol.
Nodwyd bod y gofynion perthnasol o fewn
y polisiau wedi eu dilyn megis marchnata’r adeilad
fel tafarn ers 2010 a bod cyfiawnhad dros y newid fel amlinellir yn yr asesiad
o’r adroddiad. Yn ychwanegol, nodwyd bod y Grwp Gymunedol yn Garndolbenmaen
wedi cyflwyno gwybodaeth ac fe gyfeirwyd at y
wybodaeth yn mhwynt 5.14 o’r adroddiad parthed eu bwriad i ddatblygu’r
dafarn. Nodwyd nad oedd amheuaeth bod
bwriad y Grwp yn ddiffuant ond rhaid i’r swyddogion cynllunio benderfynu ar
gais yn unol â pholisiau cyfredol ar yr amser y
cyflwynir y cais ac o fewn amser penodedig. Ni ellir gwrthod cais yn seiliedig
ar ddyhead 3ydd parti yn hytrach na chynllun gwirioneddol y gellir ei gyflawni,
h.y. ni ellir cadw penderfyniad yn agored hyd nes fo dymuniad o’r fath yn cael
ei wireddu.
Esboniwyd bod y wybodaeth a gyflwynwyd
yn cyfeirio at wybodaeth gyffredinol am y sefyllfa bresennol, hanes y safle a
dyhead y Grwp i’r dyfodol. Er bod y
dyhead yn ganmoladwy nodwyd nad oedd tystiolaeth ddi-amheuol
fod hyn yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol agos.
Yn dilyn ystyriaeth o’r holl wybodaeth
perthnasol a gyflwynwyd, argymhellwyd i ganiatau’r
cais hefo amodau a restrir yn yr adroddiad.
(b) Cynigiwyd ac eiliwyd i
ganiatau’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau:
·
Nad oedd neb wedi ei
nodi i lawr
ar y ffurflen ar gyfer siarad
a bod llefarydd y Grwp Gymunedol yn bresennol ac oni fyddai’n briodol
i dderbyn diweddariad?
·
Bod y wybodaeth a dderbyniwyd gan y Grwp Cymunedol yn ddigon o dystiolaeth
eu bod yn datgan diddordeb yn yr adeilad
a’r addewid o £10,000 sydd yn swm
sylweddol i bentref fel Garndolbenmaen
· Bod yr ymgyrch gan y Grwp Cymunedol i’w weld yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
5 Cais Rhif: C17/1094/36/LL - The Cross Foxes, Garndolbenmaen PDF 333 KB
Newid defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl.
AELOD LLEOL: Y Cynghorydd
Stephen Churchman
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Newid
defnydd o dŷ tafarn i dŷ preswyl.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais, gan nodi bod yr adeilad presennol yn darparu cyfleuster tafarn ar y
llawr daear ac uned byw ar y llawr cyntaf.
Nodwyd bod Polisi ISA 2 o’r CDLl yn datgan y dylid
gwrthsefyll newid defnydd cyfleuster cymunedol oni bai y gellir cydymffurfio ag
un o dri opsiwn. Yn yr achos yma, Rhan iii. oedd yn berthnasol, gan ei fod yn
ymwneud â chyfleuster sy’n cael ei redeg yn fasnachol, a rhaid dangos
tystiolaeth o’r isod:
·
Nad
yw’r defnydd presennol bellach yn hyfyw’n ariannol;
·
Na
ellir disgwyl yn rhesymol iddo ddod yn hyfyw yn ariannol;
·
Na
ellir sefydlu unrhyw ddefnydd cymunedol addas arall;
·
Bod
tystiolaeth o ymdrechion gwirioneddol i farchnata’r cyfleuster sydd wedi bod yn
aflwyddiannus.
Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth a gyflwynwyd yn erbyn polisi ISA 2 a’r ffaith
ei bod yn bur annhebygol ar sail y wybodaeth i law i’r defnydd tafarn ail
sefydlu yn yr adeilad oherwydd costau a natur gymdeithasol, credir bod
cyfiawnhad wedi ei ddangos dros y newid defnydd.
Derbyniwyd sylw gan y gwasanaeth Datblygu
Economaidd ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd gyda’r cais, gan ddatgan fod sawl
her yn wynebu busnes tafarn gwledig fel yma a bod y wybodaeth a gyflwynwyd wedi
cael ei asesu ganddynt a’i fod yn cadarnhau nad oedd yn hyfyw yn ei ffurf
bresennol.
Tynnwyd sylw at sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod pryder wedi
ei nodi o ran y dystiolaeth a gyflwynwyd. Nodwyd bod yr Uned Polisi Cynllunio
ar y Cyd wedi nodi bod rhaid ystyried y bwriad yng nghyd-destun fod yr uned
wedi bod yn wag am gyfnod estynedig a’i fod wedi ei farchnata am bris rhesymol
am gyfnod parhaus o 12 mis. Derbyniwyd tystiolaeth gyda’r cais mewn perthynas â
marchnata’r adeilad yn aflwyddiannus ers 2011, a oedd yn gyfnod sylweddol
hirach na’r cyfnod 12 mis a oedd yn ofynnol. Ystyriwyd bod gofynion Polisi MAN
4 o’r CDLl wedi eu cwrdd.
Derbyniwyd sylwadau/gwrthwynebiadau gan drigolion lleol yn ogystal â deiseb
yn erbyn y bwriad gan godi nifer o faterion yn ymwneud â’r datblygiad
arfaethedig a hanes diweddar y busnes.
Credir bod tystiolaeth ddigonol wedi ei gyflwyno
i brofi bod y defnydd tafarn yn anhyfyw ac er bod cyfeiriad mewn sylwadau a
dderbyniwyd at fwriad i geisio ei brynu yn lleol nid oedd tystiolaeth gadarn y
byddai’r defnydd yn debygol o ail sefydlu yn y dyfodol agos, credir felly fod
cyfiawnhad dros y newid defnydd arfaethedig i ganiatáu’r adeilad cael ei
ddefnyddio fel tŷ.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif
bwyntiau canlynol:-
·
Bod y bwriad yn groes i Bolisi MAN 4
o’r CDLl gan nad oedd yn cydymffurfio efo’r meini prawf;
·
Bod ddim darpariaeth o’r fath o fewn
pellter agos a gyda gwasanaeth bysiau yn ddiweddar wedi lleihau nid oedd
gwasanaeth i’r pentref ar ôl 9.30pm;
· Bod y dafarn ar werth ers blynyddoedd tra bod y dafarn dal ar agor ond ni hysbysebwyd yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5