Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/03/2018 - Y Cyngor (eitem 13)

13 AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn gwahodd y Cyngor i ymateb i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ar gyfer yr arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Gwynedd.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Bod cynigion drafft y Comisiwn yn mynd yn erbyn argymhellion y Cyngor hwn a’r cynghorau cymuned.

·         Pryder ynglŷn ag uno rhai wardiau – cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai’n cyflwyno dadl gref i’r Comisiwn yn erbyn etholaethau dau aelod.

·         Pryder bod yr amserlen ar gyfer ymateb i gynigion drafft y Comisiwn mor dynn.

·         Aneglurder ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i gytuno ynglŷn â Ward Abersoch a rhai wardiau eraill ac, yn wyneb hynny, awgrymwyd gwrthod adroddiad y Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Atebodd y Prif Weithredwr nad oedd gwrthod yr adroddiad yn opsiwn a’r unig ddewis arall oedd cadarnhau’r cynigion gwreiddiol a roddwyd gerbron y Comisiwn ym Mehefin 2017.  Fodd bynnag, ‘roedd yr argymhelliad i gynnal trafodaethau gyda’r aelodau lleol yn y lleoedd hynny lle mae’r aelodau lleol yn ystyried y byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen yn rhoi cyfle i aelodau yn yr ardaloedd hynny gael gwell canlyniad.

·         Pryder y byddai cynnwys Llanfrothen oddi fewn i Ward Tremadog yn golygu y byddai’r ward newydd yn cynnwys rhannau o 4 cymuned wahanol ac yn pontio ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd.

·         Nad oedd rhai o gynigion y Comisiwn yn cymryd y ffin naturiol rhwng wardiau i ystyriaeth.

·         Bod cynnig y Comisiwn i gadw Ward Dyffryn Ardudwy fel y mae ac uno Wardiau Llanbedr a Harlech yn well na’r hyn roddwyd ymlaen gan y Cyngor yn wreiddiol, sef uno Dyffryn Ardudwy gyda Llanbedr.  Atebodd y Prif Weithredwr, petai aelodau’n teimlo bod rhai o gynigion y Comisiwn yn rhagori ar yr hyn a roddwyd gerbron gan y Cyngor, y gellid peidio gwthio cynigion y Cyngor mor gryf, ond bod angen y drafodaeth.

 

          PENDERFYNWYD

(a)     Bod y Cyngor yn cytuno i ymateb drwy ail ddatgan cynigion y Cyngor a phwyso’r Comisiwn i dderbyn yr hyn oedd yn ein cynigion gwreiddiol, ond gan awdurdodi’r Prif Weithredwr i gynnal trafodaethau gydag aelodau lleol yn y lleoedd hynny lle mae’r aelodau lleol yn ystyried y byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen, ac awdurdodi’r Cabinet i gynnwys y dewis amgen hwnnw yn yr ymateb ffurfiol os yw’r holl aelodau lleol yn unfrydol yn eu barn.

(b)     Bod y Cyngor yn awdurdodi’r Cabinet i awgrymu enwau gwahanol ar gyfer wardiau i’r hyn sydd yn nghynigion y Comisiwn os oes dymuniad lleol i wneud hynny.

 

 


Cyfarfod: 01/03/2018 - Y Cyngor (eitem 13.)

13. AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 77 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).