13 AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL CYNGOR GWYNEDD PDF 77 KB
Cyflwyno
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn
gwahodd y Cyngor i ymateb i gynigion drafft y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth
Leol ar gyfer yr arolwg o drefniadau etholiadol ar gyfer Cyngor Gwynedd.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-
·
Bod cynigion drafft y Comisiwn yn mynd yn erbyn
argymhellion y Cyngor hwn a’r cynghorau cymuned.
·
Pryder ynglŷn ag uno rhai wardiau – cadarnhaodd
y Prif Weithredwr y byddai’n cyflwyno dadl gref i’r Comisiwn yn erbyn
etholaethau dau aelod.
·
Pryder bod yr amserlen ar gyfer ymateb i gynigion
drafft y Comisiwn mor dynn.
·
Aneglurder ynglŷn â’r hyn sydd wedi’i gytuno
ynglŷn â Ward Abersoch a rhai wardiau eraill ac, yn wyneb hynny, awgrymwyd
gwrthod adroddiad y Comisiwn yn ei gyfanrwydd. Atebodd y Prif Weithredwr nad
oedd gwrthod yr adroddiad yn opsiwn a’r unig ddewis arall oedd cadarnhau’r
cynigion gwreiddiol a roddwyd gerbron y Comisiwn ym Mehefin 2017. Fodd bynnag, ‘roedd yr argymhelliad i gynnal
trafodaethau gyda’r aelodau lleol yn y lleoedd hynny lle mae’r aelodau lleol yn
ystyried y byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen yn rhoi cyfle i aelodau yn yr
ardaloedd hynny gael gwell canlyniad.
·
Pryder y byddai cynnwys Llanfrothen oddi fewn i Ward
Tremadog yn golygu y byddai’r ward newydd yn cynnwys rhannau o 4 cymuned wahanol
ac yn pontio ardaloedd Dwyfor a Meirionnydd.
·
Nad oedd rhai o gynigion y Comisiwn yn cymryd y ffin
naturiol rhwng wardiau i ystyriaeth.
·
Bod cynnig y Comisiwn i gadw Ward Dyffryn Ardudwy
fel y mae ac uno Wardiau Llanbedr a Harlech yn well na’r hyn roddwyd ymlaen gan
y Cyngor yn wreiddiol, sef uno Dyffryn Ardudwy gyda Llanbedr. Atebodd y Prif Weithredwr, petai aelodau’n
teimlo bod rhai o gynigion y Comisiwn yn rhagori ar yr hyn a roddwyd gerbron
gan y Cyngor, y gellid peidio gwthio cynigion y Cyngor mor gryf, ond bod angen
y drafodaeth.
PENDERFYNWYD
(a) Bod y Cyngor yn cytuno i ymateb drwy ail
ddatgan cynigion y Cyngor a phwyso’r Comisiwn i dderbyn yr hyn oedd yn ein
cynigion gwreiddiol, ond gan awdurdodi’r Prif Weithredwr i gynnal trafodaethau
gydag aelodau lleol yn y lleoedd hynny lle mae’r aelodau lleol yn ystyried y
byddai’n ddarbodus cynnig dewis amgen, ac awdurdodi’r Cabinet i gynnwys y dewis
amgen hwnnw yn yr ymateb ffurfiol os yw’r holl aelodau lleol yn unfrydol yn eu
barn.
(b) Bod y Cyngor yn awdurdodi’r Cabinet i
awgrymu enwau gwahanol ar gyfer wardiau i’r hyn sydd yn nghynigion y Comisiwn
os oes dymuniad lleol i wneud hynny.
13. AROLWG O DREFNIADAU ETHOLIADOL CYNGOR GWYNEDD PDF 77 KB
Cyflwyno
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).