Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r
strategaeth arfaethedig.
Gan gyfeirio at y ffaith bod y Cyngor hwn yn rhoi benthyciadau i
awdurdodau lleol yn Lloegr, holwyd oedd yna berygl y gallai rhai o’r cynghorau
hynny fynd yn fethdalwyr. Mewn ymateb,
eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y cynghorau hynny yn cael eu credyd-raddio a bod
y risg wedi ei wasgaru’n eang. Hefyd,
‘roedd y benthyciadau yn rhai dros dro ac ‘roedd bron yn amhosib’ i gyngor fynd
yn fethdalwr oherwydd y gallai godi mwy o dreth.
PENDERFYNWYD
mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys, a’r Strategaeth
Buddsoddi Flynyddol am 2018/19 (Atodiad A i’r adroddiad), y Dangosyddion
Darbodus (Atodiad B), y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (Atodiad C) a’r
trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid
(ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol: