Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/03/2018 - Y Cyngor (eitem 11)

11 RHEOLAETH TRYSORLYS - DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS, STRATEGAETH DARPARIAETH LLEIAFSWM REFENIW A STRATEGAETH FUDDSODDIAD FLYNYDDOL AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid adroddiad yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu’r strategaeth arfaethedig.

 

Gan gyfeirio at y ffaith bod y Cyngor hwn yn rhoi benthyciadau i awdurdodau lleol yn Lloegr, holwyd oedd yna berygl y gallai rhai o’r cynghorau hynny fynd yn fethdalwyr.  Mewn ymateb, eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y cynghorau hynny yn cael eu credyd-raddio a bod y risg wedi ei wasgaru’n eang.  Hefyd, ‘roedd y benthyciadau yn rhai dros dro ac ‘roedd bron yn amhosib’ i gyngor fynd yn fethdalwr oherwydd y gallai godi mwy o dreth.

 

          PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Datganiad Strategaeth Rheolaeth Trysorlys, a’r Strategaeth Buddsoddi Flynyddol am 2018/19 (Atodiad A i’r adroddiad), y Dangosyddion Darbodus (Atodiad B), y Datganiad Darpariaeth Lleiafswm Refeniw (Atodiad C) a’r trefniant uno gyda’r Gronfa Bensiwn ar gyfer buddsoddi llif arian dyddiol.

 


Cyfarfod: 01/03/2018 - Y Cyngor (eitem 11.)

11. RHEOLAETH TRYSORLYS - DATGANIAD STRATEGAETH RHEOLAETH TRYSORLYS, STRATEGAETH DARPARIAETH LLEIAFSWM REFENIW A STRATEGAETH FUDDSODDIAD FLYNYDDOL AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 234 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol: