9 ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2018/19 PDF 218 KB
Cyflwyno
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor
gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2018/19.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebwyd i gwestiynau gan aelodau mewn perthynas
â chyrhaeddiad y Cyngor o ran yr ymrwymiad i dalu cyflog byw i’w staff a’r
rhesymeg y tu cefn i’r addasiad i’r polisi costau teithio ar gyfer swyddogion. Hefyd, mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd na
fyddai’r addasiadau i’r polisi costau teithio yn effeithio ar ofalwyr cartref.
PENDERFYNWYD
cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r
Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2018/19 yn Atodiad 1 i’r adroddiad.
9. ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2018/19 PDF 218 KB
Cyflwyno
adroddiad y Dirprwy Arweinydd (ynghlwm).
Dogfennau ychwanegol: