Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 08/03/2018 - Y Cyngor (eitem 9)

9 ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2018/19 pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo Datganiad Polisi Tâl ar gyfer 2018/19.

 

Yn ystod y drafodaeth, ymatebwyd i gwestiynau gan aelodau mewn perthynas â chyrhaeddiad y Cyngor o ran yr ymrwymiad i dalu cyflog byw i’w staff a’r rhesymeg y tu cefn i’r addasiad i’r polisi costau teithio ar gyfer swyddogion.  Hefyd, mewn ymateb i ymholiad, cadarnhawyd na fyddai’r addasiadau i’r polisi costau teithio yn effeithio ar ofalwyr cartref.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Datganiad o Bolisi Tâl drafft ar gyfer 2018/19 yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

 


Cyfarfod: 01/03/2018 - Y Cyngor (eitem 9.)

9. ADOLYGIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL Y CYNGOR 2018/19 pdf eicon PDF 218 KB

Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd  (ynghlwm).

Dogfennau ychwanegol: