10 CYLLIDEB 2018/19 A STRATEGAETH ARIANNOL 2018/19-2020/21 PDF 167 KB
Cyflwynwyd gan: Y Cynghorydd Peredur Jenkins
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Argymell
i’r Cyngor (yn y cyfarfod ar 1 Mawrth 2018) y dylid:
i.
Sefydlu cyllideb o £242,862,930 ar gyfer 2018/19, i’w ariannu drwy
Grant Llywodraeth o £175,127,330 a £67,735,600 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda
cynnydd o 4.8%.
ii.
Sefydlu rhaglen gyfalaf o £8.389m yn 2018/19 i’w ariannu o’r
ffynonellau a nodir yng nghymal 9.4 o’r adroddiad.
Nodi’r
Cynllun Ariannol Tymor Canol sy’n Rhan B, a mabwysiadu’r strategaeth sy’n rhan
32-34 o’r Cynllun.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNIAD
Argymell i’r Cyngor (yn y
cyfarfod ar 1 Mawrth 2018) y dylid:
Nodi’r Cynllun Ariannol Tymor
Canol sy’n Rhan B, a mabwysiadu’r strategaeth sy’n rhan 32-34 o’r Cynllun.
TRAFODAETH
Cafwyd cyflwyniad llawn i’r Gyllideb 2018/19 a
Strategaeth Ariannol 2018/19 - 2020/21 roedd yn drosolwg o’r rhagolygon
cyllidebol am y blynyddoedd i ddod. Pwysleisiwyd fod trafodaethau gydag aelodau
etholedig wedi’u cynnal drwy 4 seminar yng Nghaernarfon, Dolgellau a Pwllheli,
ac yn ychwanegol i hyn fod Cyllideb 2018/19 a’r Strategaeth Ariannol wedi bod o
flaen y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn cael ei graffu.
Trafodwyd y rhagolygon cyllidol am y tair blynedd
ariannol 2018/19 - 2020/21, roedd wedi’u gosod mewn siart ffan. Wrth edrych ar
amrediad o senarios tebygol, nodwyd y bydd angen i’r Cyngor adnabod hyd at £20m
o arbedion rhwng 2018/19 a 2020/21.
Ychwanegwyd y bydd modd amddiffyn gwasanaethau’r
Cyngor i bobl Gwynedd a chyfarch bwlch 2018/19 drwy gynnydd 4.8% yn y Dreth
Cyngor a gweithredu’r cynlluniau arbedion a thoriadau ystyriwyd eisoes.
Cyflwynwyd anghenion gwariant ar gyfer 2018/19 gan
nodi fod 72% o’r gyllideb yn dod o’r setliad grant cyffredinol i lywodraeth
leol. Mynegwyd fod pryder fod y Llywodraeth wedi torri grantiau penodol i
ysgolion, ac yn benodol y Grant Gwella Ysgolion sydd yn -£618k. Ychwanegwyd na
fydd modd i’r Cyngor lenwi’r bwlch hwn, ac o ganlyniad bydd yr ysgolion yn
ysgwyddo toriad y Llywodraeth.
Trafodwyd y gyllideb am 2018/19 a nodwyd drwy adnabod
£896k o arbedion effeithlonrwydd, gweithredu’r cynlluniau arbedion a thoriadau
a gytunwyd eisoes a cynnydd o 4.8% i’r Dreth Cyngor y bydd hyn yn ddigonol er
mwyn mantoli’r gyllideb. Pwysleisiwyd ni fydd angen toriadau ychwanegol yn
ystod 2018/19, ac felly y bydd codi’r dreth yn amddiffyn gwasanaethau i
drigolion Gwynedd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd fod gwerth yn y gyfres o weithdai i aelodau am y gyllideb,
teimlwyd ei fod yn gyfle i gael mwy o wybodaeth a chael gwell dealltwriaeth o’r
gyllideb.
-
Ychwanegwyd fod newid yn y cyfansoddiad, ac y
bydd unrhyw aelod yn y Cyngor Llawn a fydd eisiau cynnig newid i’r gyllideb
angen sicrhau fod y cynnig yn glir ac yn hafal yn ariannol. Yn ychwanegol bydd
angen i’r cynnig gael ei anfon at y Swyddog Cyllid Statudol o leiaf deuddydd o
flaen llaw.
Awdur: Dafydd Edwards