Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/02/2018 - Y Cabinet (eitem 9)

9 GWASANAETH TELEDU CYLCH CYFYNG pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwynwyd gan: Y Cynghorydd Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

  1. Sefydlu darpariaeth Teledu Cylch Cyfyng ar sail cyfundrefn heb ofalwr

    ii.        Neilltuo £489,000 o gyfalaf o Gronfa Buddsoddi i Arbed y Cyngor ar gyfer cyflawni’r newid

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

  1. Sefydlu darpariaeth Teledu Cylch Cyfyng ar sail cyfundrefn heb ofalwr.
  2. Neilltuo £489,000 o gyfalaf o Gronfa Buddsoddi i Arbed y Cyngor ar gyfer cyflawni’r newid

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi'r argymhelliad. Esboniwyd fod y system sydd yn cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd, yn destun pryder gan ei fod yn agosáu ar ddiwedd ei oes weithredol a ni ellir ei adnewyddu. Ychwanegwyd yn ystod ymarferiad Her Gwynedd, cwtogwyd y gyllideb ar gyfer y gwasanaeth i £90k, ac eleni bu i Gartrefi Cymunedol Gwynedd benderfynai beidio cyfrannu £35k yn flynyddol i’r Gwasanaeth ar gyfer monitro stadau Maesgeirchen a Maes Barcer.

 

Nodwyd fod yr adran yn cymeradwyo Opsiwn 2, ond pwysleisiwyd fod effaith sylweddol o ran colli swyddi. Mynegwyd fod trafodaeth gychwynnol wedi bod a staff.

 

Mynegwyd mai'r Heddlu sydd a’r defnydd mwyaf o’r system a gyda’r system newydd bydd modd i’r Heddlu, gyda chyswllt diwifr gael mynediad at y camerâu. Nodwyd er bod yn yr adran yn gofyn am neilltuo £489,000 o’r Gronfa Buddsoddi i Arbed y Cyngor, pwysleisiwyd fod yr adran yn gobeithio ei gael fel benthyciad ac y bydd yr adran yn talu’r Gronfa yn ôl o fewn rhyw ddwy flynedd a hanner.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd defnydd yr Heddlu o’r system gan holi os oes unrhyw siawns gofyn am arian ychwanegol gan yr Heddlu gan mai hwy sydd yn gwneud y mwyaf o’r system. Ond nodwyd ei bod yn gyfrifoldeb statudol ar y Cyngor ac yn ychwanegol mae’n ddyletswydd ar y Cyngor i leihau trosedd.

Nodwyd wrth edrych ar y system sydd yn ei lle ar hyn o bryd fod y lluniau yn aml yn wael o ran safon. Bydd y system newydd yn cynnwys mwy o gamerâu ac felly bydd mwy o luniau o safon ar gael. Nodwyd fod gwerth mewn buddsoddi mewn technoleg i’r dyfodol.

Awdur: Gwyn Morris Jones