Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/02/2018 - Y Cabinet (eitem 8)

8 CEFNOGI TEULUOEDD pdf eicon PDF 74 KB

Cyflwynwyd gan: Dilwyn Williams

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd a chefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr ail strwythuro ychydig er mwyn rhoi mwy o ffocws ar y gwaith o gefnogi teuluoedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Dilwyn Williams

 

PENDERFYNIAD

 

Nodwyd a chefnogwyd bwriad y Prif Weithredwr ail strwythuro ychydig er mwyn rhoi mwy o ffocws ar y gwaith o gefnogi teuluoedd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod trafodaeth wedi codi yn dilyn datblygu strategaeth cefnogi teuluoedd yr Adran Blant a Theuluoedd. Er mwyn sicrhau fod ffocws ar y gwaith ataliol o gefnogi teuluoedd, credai’r Aelod Cabinet Plant a Theuluoedd a’r Pennaeth fod angen penodi Uwch Reolwr ar gyfer canolbwyntio ar y maes yma.

 

Oherwydd y pwysau ariannol sydd ar y cyngor ar angen i ddarganfod arbedion sylweddol, nodwyd fod modd cyflawni’r angen mewn ffordd wahanol drwy drosglwyddo’r Uwch Reolwr Dysgu o’r Gwasanaeth Economi a Chymuned i’r Gwasanaeth Plant a Chefnogi Teuluoedd. Bydd y Uwch Reolwr yn dod a’r Gwasanaeth Ieuenctid gyda hi a bydd yr Uwch Reolwr hefyd yn cymryd y blaen ar gydgordio gwaith yn y maes tlodi. Mae trafodaeth wedi ei gynnal gyda’r Penaethiaid ac yr Uwch Reolwr dan sylw ac nid oes unrhyw wrthwynebiad i’r trosglwyddiad.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd cefnogaeth i’r trosglwyddiad ac yn enwedig i’r elfen ei bod yn dod a’r Gwasanaeth Ieuenctid gyda hi gan fod cyswllt clir rhwng gwaith ataliol. Ychwanegwyd fod gwaith ataliol yn flaenoriaeth i’r adran ac i’r Cyngor a bod hwn yn un ffordd o uchafu’r flaenoriaeth yma.