Cyflwynwyd gan: Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo
Cynllun y Cyngor 2018-23 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 1af o Fawrth 2018
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo
Cynllun y Cyngor 2018-23 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 1af o Fawrth 2018
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod gwaith wedi’i wneud dros y misoedd diwethaf i baratoi Cynllun y
Cyngor a fydd yn gosod cyfeiriad i waith y Cyngor am y cyfnod 2018-23. Yn
wahanol i’r blynyddoedd sydd wedi bod, nodwyd mai Cynllun y Cyngor sydd yma ac nid cynllun gwella yn
unig. .
Mynegwyd er bod y ddogfen yn rhoi cyfeiriad i’r
Cyngor am y pum mlynedd nesaf, pwysleisiwyd ei bod yn ddogfen fyw a bydd cyfle
i’r Cabinet yn ail edrych ar y ddogfen ystod y cyfnod. Pwysleisiwyd fod gwaith
wedi ei wneud ar y diwyg ac iaith i sicrhau ei fod yn ddarllenadwy.
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth
-
Nodwyd fod y Cynllun wedi ei ysgrifennu yn glir a bod yn dda gweld
cyflwyniadau i bob adran o’r Cyngor. Pwysleisiwyd y dylai hyn gynorthwyo aelodau’r Cyngor i dderbyn perchnogaeth o’r
Cynllun.
-
Mynegwyd fod yr uchelgais yn amlwg yma ond y realiti yw bod y sefyllfa
ariannol yn debygol o lesteirio beth sydd yn gallu cael ei wneud. Ychwanegwyd
fod Cronfa ar gael ar gyfer blaenoriaethau’r Cynllun ond efallai y bydd angen
neilltuo arian ychwanegol.
-
Cyfeiriodd un aelod at eitem oedd yn ymddangos ar goll o drafodaethau
gafwyd yn Ardal Llesiant Bangor
Awdur: Dewi W Jones