Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 13/02/2018 - Y Cabinet (eitem 6)

6 CAMPWS DYSGU 3-19, Y BALA pdf eicon PDF 402 KB

Cyflwynwyd gan: Y Cynghorydd Gareth Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

       i.        Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn ar 31 Awst 2019 a Sefydlu’r Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019.

      ii.        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i (i) uchod yn unol a gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Gareth Thomas 

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd i:

       i.        Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn ar 31 Awst 2019 a Sefydlu’r Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg, statws cymunedol, ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1 Medi 2019.

      ii.        Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig i (i) uchod yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi cefndir yr eitem hon. Esboniwyd fod y Cabinet, ar Fehefin 27ain, wedi penderfynu tynnu’r cynnig a gymeradwywyd ym mis Medi 2015 i sefydlu Campws Dysgu 3-19 Gwirfoddol a Reolir (VC Eglwys yng Nghymru) yn ei ôl. Nodwyd fod rhagymgynghroiad wedi bod gyda’r Eglwys yn dilyn y Cabinet ym mis Mehefin a nodwyd mai'r disgyblion oedd eu blaenoriaeth.

 

Yn y Cabinet ar 24 Hydref, penderfynwyd cynnal ymgynghoriad statudol yn unol ag Adran 48 Deddf Safonau Ysgolion Cymru (2013). Daeth 28 o sylwadau yn ôl yn dilyn yr ymgynghoriad, ac ychwanegwyd fod y sylwadau yn cefnogi newid statws yr ysgol i fod yn un Gymunedol. Nodwyd y cam nesaf fydd i gyhoeddi rhybuddion statudol yn cynnig i gau'r ysgolion, ac i’r ysgol newydd agor ym Medi 2019. Mynegwyd y bydd yr adeilad yn barod erbyn Medi 2018, a bod trefniadau yn eu lle i’r ysgolion wneud defnydd o’r ysgol am y flwyddyn cyn ei hagor.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod yr eitem hon wedi cael ei thrafod ers tymor hir ond yn deall fod yr adran yn gaeth yn gyfreithiol a bod angen mynd drwy’r broses gywir. Nodwyd fod pobl yr ardal yn siomedig fod y gwaith wedi cymryd amser ond er hynny ei fod am wella ansawdd addysg yr ardal.

-        Trafodwyd yr adnoddau cymunedol gan nodi ei fod yn rhywbeth i’w ganmol, ac ychwanegwyd fod y llyfrgell yn ôl ar y safle.

Awdur: Garem Jackson