9 CYLLIDEB REFENIW 2017/18 - ADOLYGIAD TRYDYDD CHWARTER (RHAGFYR 2017) PDF 76 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2017) o’r
Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid
adrannau perthnasol gymryd camau priodol ynglŷn â materion o dan eu
harweiniad / rheolaeth.
Penderfynwyd
i gynaeafu (£270k) o danwariant Gostyngiad Treth y Cyngor, (£12k) tanwariant
un-tro ar fidiau a (£803k) o ganlyniad i dderbyniad grant ac amgylchiadau
ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, gan eu trosglwyddo i’r Gronfa
Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda pwysau anochel un-tro ar gyllidebau’r
Cyngor, gyda elfen ohono ar gyfer digolledu effaith gorwariant posib ar
gludiant tacsis ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y trydydd
chwarter (sefyllfa 31 Rhagfyr 2017) o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth, gan
ofyn i’r Aelodau Cabinet a’r penaethiaid adrannau perthnasol gymryd camau
priodol ynglŷn â materion o dan eu harweiniad / rheolaeth.
Penderfynwyd cynaeafu (£270k) o danwariant Gostyngiad Treth
y Cyngor, (£12k) tanwariant un-tro ar fidiau a (£803k) o ganlyniad i dderbyniad
grant ac amgylchiadau ffafriol ar gyllidebau eraill y Cyngor, gan eu trosglwyddo
i’r Gronfa Strategaeth Ariannol i gynorthwyo gyda phwysau anochel un-tro ar
gyllidebau’r Cyngor, gydag elfen ohono ar gyfer digolledu effaith gorwariant
posib ar gludiant tacsis ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr
adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno yn llawer cynt na’r arfer a bod hyn yn rhan o
drefn dynnach o gau cyfrifon y Cyngor diwedd y flwyddyn. Ar y cyfan nodwyd fod
y sefyllfa yn weddol debyg i ddiwedd yr ail chwarter. Mynegwyd fod yr adolygiad
yma yn adlewyrchu rheolaeth ariannol dderbyniol gan nifer o adrannau’r Cyngor,
ond argymhellwyd cyfuniad o gamau gweithredu pendant i’r Adrannau Addysg,
Oedolion, Iechyd a Llesiant, Plant a Chefnogi Teuluoedd a Phriffyrdd a
Bwrdeistrefol, i sicrhau rheolaeth a’u cyllidebau erbyn Mawrth 31 2018.
Manylwyd ar rai adrannau yn benodol:
Adran Plant a Cefnogi
Teuluoedd:
Mynegwyd fod yr adran yn ymwybodol o’r
gorwariant yn yr adran yn benodol wrth edrych ar leoliadau i bobl ifanc. Nodwyd
ei bod yn gofnod heriol ond fod yr adran yn edrych ar ddatrysiad ar gyfer y
gorwariant. Pwysleisiwyd fod y lleoliadau yn rhai arbenigol felly mae’r
niferoedd yn isel, ac mae’n broblem ar draws siroedd y rhanbarth. Nodwyd fod
trafodaethau yn cael ei chynnal yn rhanbarthol i feddwl am y ffordd ymlaen.
Adran Oedolion, Iechyd
a Llesiant
Nodwyd mai cynlluniau arbedion sydd heb eu
cyflawni yw’r broblem yn yr adran. Pwysleisiwyd fod yr adran yn ceisio gweithio
ar ffordd wahanol o weithio, gobeithir y bydd modd ail gyflwyno’r pecynnau cynlluniau
arbedion i’r Cabinet yn fuan ac y bydd yn becynnau a fydd yn rhoi gwell
gwasanaeth i drigolion Gwynedd.
Adran Addysg
Nodwyd mai cynnydd mewn gwariant ar gludiant
tacsis ysgolion yw prif reswm dros y gorwariant. Mynegwyd fod ymgynghoriad yn
cael ei gynnal a’r Pennaeth Amgylchedd i feddwl am ffyrdd gwahanol i gynnig
cludiant er mwyn lleihau costau.
Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol
Nodwyd yn dilyn y drafodaeth flaenorol am orwariant yn y Cabinet mae’r adran wedi gallu lleihau’r gorwariant o £600,000 i £400,0000. Pwysleisiwyd fod yn adran yn gweithio i geisio cael y ffigwr i lawr erbyn diwedd mis Mawrth
Awdur: Dafydd Edwards