Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/01/2018 - Y Cabinet (eitem 11)

11 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN pdf eicon PDF 181 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn hapus efo’r perfformiad ar y cyfan. Tynnwyd sylw at rai prosiectau yn benodol. Nodwyd fod y gwaith o newid ac ail fodelu'r gwasanaeth Ieuenctid a gwasanaeth Hamdden yn mynd rhagddi. Soniwyd am waith datblygu sydd wedi bod yn digwydd yn Neuadd Buddug, Y Bala, Neuadd Dwyfor, Pwllheli a Stroiel ym Mangor.

 

Pwysleisiwyd fod blaenoriaeth i’r prosiect cydymdrechu yn erbyn tlodi ac yn benodol y cyd weithio a phartneriaid allanol, i weithio gyda’i gilydd wrth i’r sir symud i’r Credyd Cynhwysol. Pwysleisiwyd fod y cynllun Credyd Cynhwysol wedi llithro ychydig a bydd y gwasanaeth yn cael ei rholio allan i’r canolfannau gwaith ar hyd Gwynedd (ac eithrio Caernarfon ym mis Gorffennaf yn hytrach na Mis Mawrth fel yr oedd y syniad gwreiddiol. Ategwyd fod staff yn cael ei hyfforddi er mwyn delio ac unrhyw broblem fydd yn codi o ganlyniad i’r Credyd Cynhwysol.

 

Pwysleisiwyd fod gwaith da yn cael ei wneud gan yr adran ddigartrefedd, yn ychwanegol at hyn mae Bwrdd Aml Asiantaeth wedi cael ei greu yn benodol i edrych ar dai. Nodwyd fod y cyfarfod cyntaf wedi bod a'i fod yn gyfarfod postif’ ac adeiladol.

 

Ar y cyfan mae’r Aelod yn hapus a’r perfformiad. Nodwyd fod gwaith yn cael ei wneud gyda’r adrannau er mwyn ystyried mesurau ystyrlon. Mynegwyd fod angen i’r mesurau fod yn rhai clir mae trigolion Gwynedd yn ei ddeall, a bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar y mesurau yma.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

-        Trafodwyd yr Uned Ddigartrefedd a nodwyd fod achosion yn cynyddu. Mynegwyd fod dirywiad yn y mesuryddion, ond fod disgwyliadau y Llywodraeth yn llawer uwch a lleihad yn y lefel ariannu. Nodwyd fod yr adran yn llwyddo ond fod llawer o waith i’w wneud. Pwysleisiwyd ei fod yn broblem genedlaethol ond fod Gwynedd ar y cyfan yn perfformio yn dda yn genedlaethol.

 

Awdur: Iwan Trefor Jones