11 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS DAI, DIWYLLIANT A HAMDDEN PDF 181 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Craig ab Iago
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn hapus efo’r
perfformiad ar y cyfan. Tynnwyd sylw at rai prosiectau yn benodol. Nodwyd fod y
gwaith o newid ac ail fodelu'r gwasanaeth Ieuenctid a gwasanaeth Hamdden yn
mynd rhagddi. Soniwyd am waith datblygu sydd wedi bod yn digwydd yn Neuadd
Buddug, Y Bala, Neuadd Dwyfor, Pwllheli a Stroiel ym Mangor.
Pwysleisiwyd fod blaenoriaeth i’r prosiect cydymdrechu yn
erbyn tlodi ac yn benodol y cyd weithio a phartneriaid allanol, i weithio
gyda’i gilydd wrth i’r sir symud i’r Credyd Cynhwysol. Pwysleisiwyd fod y
cynllun Credyd Cynhwysol wedi llithro ychydig a bydd y gwasanaeth yn cael ei
rholio allan i’r canolfannau gwaith ar hyd Gwynedd (ac eithrio Caernarfon ym
mis Gorffennaf yn hytrach na Mis Mawrth fel yr oedd y syniad gwreiddiol.
Ategwyd fod staff yn cael ei hyfforddi er mwyn delio ac unrhyw broblem fydd yn
codi o ganlyniad i’r Credyd Cynhwysol.
Pwysleisiwyd fod gwaith da yn cael ei wneud gan yr adran
ddigartrefedd, yn ychwanegol at hyn mae Bwrdd Aml Asiantaeth wedi cael ei greu
yn benodol i edrych ar dai. Nodwyd fod y cyfarfod cyntaf wedi bod a'i fod yn
gyfarfod postif’ ac adeiladol.
Ar y cyfan mae’r Aelod yn hapus a’r perfformiad. Nodwyd fod
gwaith yn cael ei wneud gyda’r adrannau er mwyn ystyried mesurau ystyrlon.
Mynegwyd fod angen i’r mesurau fod yn rhai clir mae trigolion Gwynedd yn ei
ddeall, a bod gwaith yn cael ei wneud i edrych ar y mesurau yma.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
-
Trafodwyd yr Uned Ddigartrefedd a
nodwyd fod achosion yn cynyddu. Mynegwyd fod dirywiad yn y mesuryddion, ond fod
disgwyliadau y Llywodraeth yn llawer uwch a lleihad yn y lefel ariannu. Nodwyd
fod yr adran yn llwyddo ond fod llawer o waith i’w wneud. Pwysleisiwyd ei fod
yn broblem genedlaethol ond fod Gwynedd ar y cyfan yn perfformio yn dda yn
genedlaethol.
Awdur: Iwan Trefor Jones