14 TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 197 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Peredur Jenkins
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Nodwyd y cynnydd
calonogol tuag at wireddu’r cynlluniau arbedion 2015/16 – 2017/18
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Peredur Jenkins
PENDERFYNIAD
Nodwyd
y cynnydd calonogol tuag at wireddu’r cynlluniau arbedion 2015/16 – 2017/18
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y
Strategaeth Ariannol y Cyngor 2017/18 wedi cynllunio £7,414,751 o arbedion yn
ystod y flwyddyn. Nodwyd fod y rhagolygon presennol o ran cynlluniau gwireddu
yn nodi o’r 122 o gynlluniau fod 103 wedi eu gwireddu yn llawn neu yn rhannol,
a 7 bellach ar drac i’w gwireddu yn amserol. Wrth edrych ar gynlluniau adrannol
2016/17 nodwyd fod 99% o’r arbedion bellach wedi ei gwireddu.
Nodwyd fod Adran Oedolion am gyflwyno adroddiad
yn amlinellu eu cynlluniau i gyfuno amryw o gynlluniau unigol a fydd yn cael ei
gyflwyno ym mis Chwefror 2018. O ganlyniad i hyn gellir ystyried y bydd swm
sylweddol o’r arbedion o fewn cynlluniau 2017/18 yn cael ei wireddu yn amserol.
Nodwyd fod un cynllun yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn creu pryder ond
fod camau ar y gweill i gyflwyno’r adroddiad i’r Pwyllgor Craffu i ystyried y
sefyllfa.
Ar y cyfan mae’r aelod yn fodlon a’r cynnydd
wedi ei wneud i wireddu’r hyn oedd yn llithro yn y cynlluniau hanesyddol, ac
mae’r rhagolygon o ran cynlluniau 2017/18 ar y cyfan yn addawol.
Awdur: Dafydd Edwards