12 ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET AR GYFER DATBLYGU'R ECONOMI PDF 160 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Ioan Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad a nodwyd ar y cyfan fod
yr aelod yn hapus gyda pherfformiad y mwyafrif o brosiectau gyda phob un ar y
trywydd cywir. Tynnwyd sylw at brosiectau penodol. Mynegwyd gyda Swyddog Gwerth
Uchel ac o Ansawdd fod y rhaglen waith yn parhau ac ers yr adroddiad blaenorol
fod 10 swydd gwerth uchel wedi’u creu yn y Sir a 92 swydd gwerth uchel wedi eu
diogelu. Nodwyd fod llawer o’r swyddi wedi eu creu/diogelu yn ardal Arfon, ac
mai'r prif reswm am hyn yw oherwydd bod y sectorau gwerth uchel yn fwy aeddfed
yn Arfon. Er hynny mae sylfaeni yn cael ei gosod i alluogi datblygiadau
sylweddol yn yr ardaloedd Meirionydd a Dwyfor.
Trafodwyd Gwynedd Ddigidol a nodwyd fod peth oedi
yn y cynllun newydd sydd ar y gwell gan y Llywodraeth, ond fod cadarnhad
diweddar yn nodi y byddai Cyflymu Cymru 2 yn cychwyn yn 2018. Erbyn hyn mae 86%
o gartrefi a busnesau sydd yn derbyn band eang cyflym yn y sir.
Nodwyd gyda phrosiect Safle Treftadaeth y Byd
fod gwaith yn parhau yn Harlech a Chaernarfon. Nodwyd fod y gwaith o gefnogi
partneriaid lleol yn Harlech i ymateb i’r anghenion ac wedi cymryd cam ymlaen
gydag adroddiad ar flaenoriaethu cyfleoedd strategol yn yr ardal bellach wedi
ei gwblhau. Nodwyd yn ogystal fod y Sir wedi bod yn llwyddiannus i ddenu
buddsoddiad i ddigwyddiad Beicio Mynydd Red Bull Hardline, Dinas Mawddwy wedi
ei sicrhau yn y sir.
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth
-
Trafodwyd cynllun Gwynedd Ddigidol. Nodwyd ei
fod yn ymwybodol ar ddiwedd y cynllun yma fod modd i dai unigol gysylltu i ofyn
am fand eang mewn tŷ unigol. Holwyd os oes adnodd o fewn y cyngor i
grwpiau ddod at ei gilydd i wneud cais dros ardal benodol. Pwysleisiwyd mai'r
bwriad yr ail gam yw cael gwe cynt i’r ardaloedd sydd dal heb ei gael.
Cadarnhawyd fod data ar gael o’r ardaloedd sy’n parhau i beidio derbyn y we
band eang - fel bod modd targedu'r rhain yn ystod yr ail gam.
Awdur: Iwan Trefor Jones