7 TREFNIADAU LLYWODRAETHU ARFAETHEDIG CWMNI HAMDDEN CYNGOR GWYNEDD PDF 250 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd
i:
-
Ddirprwyo’r hawl i Bennaeth Adran Economi a Chymuned mewn
ymgynghoriad â Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i baratoi dogfennau
cyfansoddiadol cwmni cyfyngedig drwy warant gan ymgorffori y prif faterion ac
egwyddorion a argymhellir yn yr adroddiad.
-
Awdurdodi’r Pennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad
â’r Pennaeth Cyfreithiol i fwrw ymlaen i gofrestru’r Cwmni yn Nhŷ’r
Cwmnïau yn unol â gofynion ac amserlen y Prosiect Hamdden a chymryd unrhyw
gamau angenrheidiol i sicrhau hyn.
-
Cadarnhau fod y broses o benodi’r
Bwrdd o Gyfarwyddwyr a Rheolwr Gyfarwyddwr i gychwyn.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago
PENDERFYNIAD
Penderfynwyd:
-
Ddirprwyo’r hawl i Bennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â Phennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
baratoi dogfennau cyfansoddiadol cwmni cyfyngedig drwy warant gan ymgorffori'r
prif faterion ac egwyddorion a argymhellir yn yr adroddiad
-
Awdurdodi Pennaeth Adran Economi a Chymuned mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i fwrw ymlaen i gofrestru’r Cwmni yn
Nhŷ’r Cwmnïau yn unol â gofynion ac amserlen y Prosiect Hamdden a chymryd
unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau hyn.
-
Cadarnhau fod y broses o benodi’r Bwrdd o Gyfarwyddwyr a Rheolwr
Gyfarwyddwr i gychwyn.
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ar y 3ydd a’r 5ed o Hydref y bu i’r Cabinet a’r Cyngor Llawn
gymeradwyo sefydlu Cwmni, cyfyngedig drwy warant, wedi ei reoli gan y Cyngor, i
ddarparu cyfleusterau hamdden yng Ngwynedd. Eglurwyd mai mater o drefn oedd dod
â’r adroddiad
i’r Cabinet er mwyn cychwyn ar y gwaith o gychwyn y Cwmni.
Ategwyd fod telerau
arfaethedig wedi ei chyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Economi a Chymuned ar yr 13eg
o Ragfyr ac mae eu sylwadau ac argymhellion wedi’u hystyried o fewn yr
adroddiad
Awdur: Sioned Williams