Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 16/01/2018 - Y Cabinet (eitem 6)

6 CYTUNDEBAU INTERGREIDDIO O FEWN Y MAES GOFAL A IECHYD YN RHANBARTHOL pdf eicon PDF 287 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd i gytuno i’r Cytundeb Integreiddio fel sydd wedi ei osod allan yn Atodiad 1. Mae’r cytundeb yma yn darparu’r trefniadau llywodraethu i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i weithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ac i fodloni gofynion deddfwriaethol fel y nodir yn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

 

Yn ogystal penderfynwyd fod yr Aelod Cabinet i gymeradwyo cytundebau unigol ar gyfer prosiectau penodol oni bai bod oblygiadau penodol sydd yn addas i gael barn y Cabinet arnynt.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. W Gareth Roberts

 

PENDERFYNWYD

 

Penderfynwyd:

-        Cytuno i’r Cytundeb Integreiddio fel sydd wedi ei osod allan yn Atodiad 1. Mae’r cytundeb yma yn darparu’r trefniadau llywodraethu i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i weithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ac i fodloni gofynion deddfwriaethol fel y nodir yn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).

-        Cytunwyd i’r Aelod Cabinet i gymeradwyo cytundebau unigol ar gyfer prosiectau penodol oni bai bod oblygiadau penodol sydd yn addas i gael barn y Cabinet arnynt.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a nodi fod 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru a’r Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweithio’n anffurfiol, ers nifer o flynyddoedd, fel cydweithrediad gyda’i gilydd er mwyn sicrhau gwelliannau i’r maes gofal cymdeithasol. Ers 2014 maent wedi bod yn cydweithio gan ddefnyddio Fframwaith y Cydweithrediad i gyfuno’n strategol ar ddatblygiadau gwasanaeth. Mynegwyd fod angen ffurfioli’r trefniadau er mwyn parhau i lywodraethu’n gywir a gweithredu yn unol â’r dyletswyddau a osodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Cod Ymarfer.

 

Nodwyd drwy alluogi’r cytundeb yma bydd modd  creu cronfeydd cyfun rhanbarthol, ond pwysleisiwyd nad oes gorfodaeth ar hyn. Ategwyd mai sefydlu fframwaith a gosod sylfaen ffurfiol i’r rhanbarth mae’r cytundeb hwn ac nid trosglwyddo cyfrifoldebau.

 

Awdur: Morwena Edwards