6 CYTUNDEBAU INTERGREIDDIO O FEWN Y MAES GOFAL A IECHYD YN RHANBARTHOL PDF 287 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. W Gareth Roberts
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd
i gytuno i’r Cytundeb Integreiddio fel sydd wedi ei osod allan yn Atodiad 1.
Mae’r cytundeb yma yn darparu’r trefniadau llywodraethu i Wasanaethau Gofal
Cymdeithasol i weithio mewn partneriaeth ar draws y rhanbarth ac i fodloni
gofynion deddfwriaethol fel y nodir yn Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru).
Yn
ogystal penderfynwyd fod yr Aelod Cabinet i gymeradwyo cytundebau unigol ar
gyfer prosiectau penodol oni bai bod oblygiadau penodol sydd yn addas i gael
barn y Cabinet arnynt.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. W Gareth Roberts
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd:
-
Cytuno i’r Cytundeb Integreiddio fel sydd wedi ei
osod allan yn Atodiad 1. Mae’r cytundeb yma yn darparu’r trefniadau
llywodraethu i Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i weithio mewn partneriaeth ar
draws y rhanbarth ac i fodloni gofynion deddfwriaethol fel y nodir yn Rhan 9
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
-
Cytunwyd i’r Aelod Cabinet i gymeradwyo cytundebau
unigol ar gyfer prosiectau penodol oni bai bod oblygiadau penodol sydd yn addas
i gael barn y Cabinet arnynt.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad a nodi fod 6 Awdurdod Lleol yng Ngogledd Cymru a’r
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi gweithio’n anffurfiol, ers nifer o
flynyddoedd, fel cydweithrediad gyda’i gilydd er mwyn sicrhau gwelliannau i’r
maes gofal cymdeithasol. Ers 2014 maent wedi bod yn cydweithio gan ddefnyddio
Fframwaith y Cydweithrediad i gyfuno’n strategol ar ddatblygiadau gwasanaeth. Mynegwyd fod angen ffurfioli’r
trefniadau er mwyn parhau i lywodraethu’n gywir a gweithredu yn unol â’r
dyletswyddau a osodir yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a’r Cod
Ymarfer.
Nodwyd drwy alluogi’r cytundeb yma bydd modd creu cronfeydd cyfun rhanbarthol, ond
pwysleisiwyd nad oes gorfodaeth ar hyn. Ategwyd mai sefydlu fframwaith a gosod
sylfaen ffurfiol i’r rhanbarth mae’r cytundeb hwn ac nid trosglwyddo cyfrifoldebau.
Awdur: Morwena Edwards