Cyflwynwyd gan: Cyng. Gareth Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyn a
nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNIAD
Derbyn a
nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn
fodlon gyda’r perfformiad yn yr Adrannau. Nodwyd fod gwaith Uned Gwasanaeth
Stryd yn sirchau fod strydoedd yn lan a thaclus, ond mae gostyngiad yn y
perfformiad wedi bod yn bendodol wrth edrych ar Lendid ac Edrychiad Strydoedd.
Gellir priodoli’r gostyngiadau hyn i effaith y toriadau.
Wrth edrych ar lefelau gwastraff mynegwyd fod
gostyngiad wedi bod mewn cyfraddau ailgylchu/compostio gan fusnesau. Mae
gofynion cenedlaethol wedi ei gwneud yn orfodol i fasnachwyr ddidoli eu
gwastraff, mae Grŵp Tasg wedi ei sefydlu er mwyn edrych ar y broses a
chynllun gwaith er mwyn ei wneud yn fwy deniadol yn ariannol i’r cwmni er mwyn
codi perfformiad y mesur hwn.
Pwysleisiwyd gyda chynllun Leihau Amlder
Torri a Threfn Casglu Gwair Trefol, fod pryder y byddai goblygiadau parhau i
dorri’r gyllideb yn debygol o fod yn fwy na’r hyn y rhagwelwyd. O ganlyniad i
hyn bydd trafodaeth gan y Pwyllgor Craffu ar gyfer opsiynau amgen er mwyn
gwireddu’r arbediad.
Nodwyd fod tafluniad y sefyllfa NET
ddiweddaraf yr Adran Ymgynghoriaeth yn dangos elw uwch na’r targed o £9,470, ac
o ganlyniad mae’r sefyllfa gadarnhaol. Diolchwyd i staff am eu gwaith da yn
benodol yn ei ward - Y Felinheli - yn dilyn tirlithriad cyn y Nadolig.
Sylwadau yn
codi o’r drafodaeth
-
Diolchwyd i weithwyr yr adran ac yn benodol am fynd y
filltir ychwanegol.
-
Trafodwyd lefelau ailgylchu/compostio masnachol a
pwysleisiwyd mai bwyd yn benaf sydd yn cael ei gompostio. Nodwyd er fod y
perfformiad yn 40% a fod hynny yn dda, mae lle i wella. Nodwyd ei bod yn anodd
cael busnesau i ailgylchu mwy ond yn y broses o edrych ar y ffioedd i weld os
oes modd ei wneud yn fwy dieniadol i’r cwmniau.
-
Wrth edrych ar ganlyniadau
ailgylchu, mae’n dangos fod trigolion y sir yn barod i ailgylchu. Nodwyd y bydd
llosgi gwastraff yn dod a’r sir ar y targed ailgylchu. Nodwyd er bod y
niferoedd yn dda mae lle i wella yn enwedig wrth edrych ar gasgliadau bwyd.
Awdur: Dilwyn Williams