5 PRYDLES CANOLFAN HENBLAS Y BALA I GWMNI PUM PLWY PENLLYN PDF 317 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Penderfynwyd i:
-
ddefnyddio grymoedd Caniatâd Gwaredu
Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu Adeilad Henblas, Y Bala, yn uniongyrchol i
Gwmni Pum Plwy Penllyn Cyf am lai na gwerth y farchnad er mwyn sicrhau
buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
-
Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Adran Eiddo i
gytuno ar y telerau gyda’r cwmni.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNWYD
Penderfynwyd
i:
-
ddefnyddio
grymoedd Caniatâd Gwaredu Cyffredinol (Cymru) 2003 i brydlesu Adeilad Henblas,
Y Bala, yn uniongyrchol i Gwmni Pum Plwy Penllyn Cyf. am lai na gwerth y
farchnad er mwyn sicrhau buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
-
Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Adran Eiddo i gytuno ar y telerau gyda’r cwmni.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y mater hwn yn
fater gweddol syml. Mynegwyd fod Cwmni Pum Plwyf Penllyn Cyf. a phrydles 5
mlynedd ar yr adeilad yn y Bala ers 2013 maent wedi gwneud gwaith adeiladu
sylweddol i’r adeilad ers cael y brydles. Bellach mae’r Cwmni yn awyddus i
dderbyn y brydles am 25 mlynedd er mwyn cael cyflwyno cais i ariannu’r gwaith o
uwchraddio gweddill yr adeilad.
Pwysleisiwyd fod yr adeilad yn cynnig gofod addas sydd
yn hwyluso presenoldeb gwasanaethau iechyd, lles ac eiriolaeth wirfoddol yn yr
ardal. Drwy’r adeilad mae modd i drigolion ardal Y Bala gael mynediad am
wasanaethau a ddarperir gan gyrff trydydd sector. Pwysleisiwyd fod y cais hwn
yn gofyn i’r Cyngor benderfynu fod yr eiddo yn cael ei osod yn benodol er mwyn
hwyluso partneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd a Chwmni Pum Plwy Penllyn i ddarparu
gwasanaethau cyhoeddus yn ardal pum plwyf. Yn ychwanegol at hyn mae hawl
cyfreithiol gan y Cyngor yn unol â grymoedd Caniatâd Gwaredu Cyffredinol
(Cymru) 2003 i osod am lai na phris y farchnad.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
- Nodwyd fod trigolion Y Bala a chwmnïau lleol yn gefnogol iawn o’r cais.
Awdur: Dafydd Gibbard