5 Cais Rhif. C17/0844/09/LL - Tir ar y cyn Ganolfan Iechyd, Pier Road, Tywyn, Gwynedd PDF 357 KB
Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol.
AELODAU LLEOL: Cynghorydd
Anne Lloyd Jones
Cynghorydd Mike Stevens
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Bu
i’r Is-gadeirydd gadeirio’r cais uchod gan fod y Cadeirydd wedi datgan buddiant
personol ac wedi gadael y Siambr.
Cais llawn ar
gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o
efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi y byddai’r tai wedi eu gosod allan mewn un bloc o 8 o fflatiau ar
ffurf adeilad tri llawr / deulawr, a 4 o dai pâr deulawr.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu fewn i ffin datblygu tref Tywyn a
thynnwyd sylw bod gweddill manylion y cais i’w gweld yn yr adroddiad gerbron
a’r ffurflen sylwadau ychwanegol. Yn
ogystal, tynnwyd sylw at ymatebion yr ymgynghoriadau cyhoeddus a’r ddeiseb a
gyflwynwyd yn gwrthwynebu’r bwriad a oedd wedi derbyn sylw fel rhan o’r
asesiad.
Nodwyd
bod yr egwyddor o ddatblygu’r safle yn cwrdd â gofynion y polisi perthnasol a’r
12 annedd yn cyfrannu’n bositif at ddarpariaeth tai hap yn Nhywyn a hefyd yn gwneud defnydd da o dir a
ddatblygwyd o’r blaen. Nodwyd y byddai’r
unedau yn rhai fforddiadwy ar gyfer eu rhentu yn gymdeithasol.
Er
bod pryderon wedi eu codi gan y cyhoedd
y bydd y safle yn arwain at or-ddatblygiad ystyrir y byddai’r datblygiad yn
gydnaws â chymeriad yr ardal bresennol ac ni fyddai yn achosi niwed gormodol i
rinweddau gweledol yr ardal na’r drefwedd ehangach.
Nodwyd
bod y datblygiad wedi’i gynllunio’n i sicrhau pellter preifatrwydd da rhwng yr
anheddau bwriedig ac adeiladau presennol, yn ogystal mae pellter yr adeiladau
oddi wrth dai presennol ger y safle yn sicrhau na fydd yn effeithio ar lif
golau naturiol i’r anheddau hynny. O safbwynt pryderon ynglŷn â gor-edrych i
gerddi cyfagos, nodwyd bod gor-edrych i erddi mewn sefyllfa drefol yn
anorfod. Ni ystyrir bod gwrthwynebiad
ynglŷn ag amhariaeth a tharfu ar fwynderau trigolion cyfagos gan deuluoedd
a phlant a allai breswylio yn y datblygiad
yn rhesymol a chredir y byddai’r datblygiad yn cyfrannu at gymuned
amrywiol ei natur.
Yng nghyd-destun
trafnidiaeth a mynediad, ystyrir bod y bwriad yn dderbyniol o ran diogelwch
ffyrdd ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau perthnasol.
Mewn ymateb i ymgynghoriad
gyda Dŵr Cymru, derbyniwyd sylwadau yn nodi na ddylai dŵr wyneb oddi
ar y datblygiad gael ei gysylltu i’r garthffos gyhoeddus ac i’r perwyl hwn
cynigir amod i’w gynnwys ar unrhyw ganiatâd cynllunio yn nodi y dylid cytuno ar
y modd o waredu dŵr wyneb ac aflan cyn y cychwynnir unrhyw ddatblygiad.
Yn dilyn ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol, yr holl sylwadau a dderbyniwyd a’r ymatebion i’r
ymgynghoriadau cyhoeddus, ystyrir bod y bwriad arfaethedig yn gwneud defnydd da
o safle tir llwyd ac argymhelliad y swyddogion cynllunio ydoedd i’w ganiatáu yn
unol ag amodau perthnasol.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad, nododd cynrychiolydd ar ran yr
ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:
· Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) yn ymwybodol bod deiseb wedi ei gyflwyno ond er gwybodaeth bu iddynt gynnal ymgynghoriad gyda thrigolion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5
10 Cais Rhif C17/0844/09/LL - Tir cyn Ganolfan Iechyd, Ffordd y Pier, Tywyn PDF 277 KB
Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol.
AELODAU LLEOL: Y Cynghorwyr Anne Lloyd Jones a Mike Stevens.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnod:
Cais llawn ar gyfer dymchwel cyn
ganolfan iechyd a chodi 12 annedd (8 o fflatiau a 4 o efeilldai) ynghyd â
mynedfa, parcio a thanadeiledd cysylltiol
Nid oedd modd trafod
y cais yma oherwydd nad oedd
cworwm digonol. Cyfeiriwyd y cais ymlaen i’r Pwyllgor
nesaf