Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 18/12/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/0455/22/LL - Cae Efa Lwyd, Ffordd Clynnog, Penygroes pdf eicon PDF 418 KB

Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol.

           

(a)       Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Cynllunio Mwynau a Gwastraff ar gefndir y cais, gan nodi bod y fynedfa bresennol ar y safle yn agor allan i ffordd ddi-ddosbarth Ffordd Clynnog. Eglurodd nad oedd yr Uned Drafnidiaeth yn cefnogi defnyddio'r fynedfa yma.

 

Eglurwyd bod y cais hwn yn cynnig mynedfa gerbydol newydd a fyddai’n arwain yn uniongyrchol i’r chwarel. Byddai’r gwaith ar y chwarel am gyfnod o 4 mlynedd a 100,000 tunnell y flwyddyn gyda chynlluniau i adfer y fynedfa yn ôl fel tir amaethyddol pan ddaw’r gwaith i ben.

 

Cadarnhawyd bod yr Uned Drafnidiaeth yn gefnogol i’r bwriad a’i fod yn debygol y byddai rhaid diwygio gorchymyn ar y lôn drwy Ddeddf Priffyrdd. Roedd hyn i’w drafod a chytuno rhwng yr ymgeisydd a’r Uned Drafnidiaeth.

 

Nodwyd byddai’r fynedfa newydd yn bellach i ffwrdd o drigolion Ffordd Clynnog ac yn sicrhau mynedfa na fyddai’n dod allan i lôn gul annerbyniol.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         NA i’r Fynedfa Newydd;

·         Bod y fynedfa bwriedig ar droad peryg ac fe ddylid cynnal ymweliad safle;

·         Bod gan y Pwyllgor yr hawl i wrthod y cais a byddai ffordd o fyw'r trigolion yn saff pe gwrthodir y cais.

 

(c)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Y gellir parhau i ddefnyddio’r fynedfa bresennol ond bod yr ymgeisydd wedi cymryd i ystyriaeth pryderon lleol ac wedi cyflwyno’r cais yma am fynedfa newydd;

·         Bod yr ymgeisydd yn gwneud eu gorau i ail-agor y chwarel o dan yr amodau gorau posib.

 

(ch)   Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), gan nodi’r prif bwyntiau canlynol:-

·         Byddai hyd at 20 symudiad lori'r dydd o’r fynedfa gan wasgaru llwch;

·         Bod y bwriad ar y safle yn ymwthiol ac yn tanseilio mwynderau lleol;

·         Bod trigolion lleol yn gweithio i harddu’r ardal i hybu balchder pobl yn eu cymuned a bod datblygiad o’r fath yn tanseilio’r gwaith ac yn hagru’r ardal;

·         Yr angen i roi ystyriaeth i’r pennawd ‘Rheoli Twf a Datblygiad’ yn y CDLl;

·         Yr angen i weithredu yn unol â Ffordd Gwynedd;

·         Yn ôl y Cenhedloedd Unedig mae gan bobl hawl i gartref heddychlon heb ymyrraeth ac efallai y bydd gofyn ar awdurdodau cyhoeddus i gymryd camau i leihau sŵn a llygredd;

·         Byddai’r traffig trwm yn berygl ac yn ffynhonnell llygredd sylweddol ac achosi niwsans;

·         Gofyn i’r Pwyllgor wrthod y cais er mwyn rhoi amser i’r trigolion dderbyn cyngor cyfreithiol.

 

(d)     Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod mynediad eisoes yn bodoli o dan y caniatâd gwreiddiol gyda’r tebygolrwydd y byddai’r ymgeisydd yn ei ddefnyddio pe gwrthodir y cais. ‘Roedd mwy o effaith yn deillio o’r fynedfa  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 8)

8 Cais Rhif C17/0455/22/LL - Cae Efa Lwyd, Ffordd Clynnog, Penygroes pdf eicon PDF 413 KB

Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Creu mynediad cerbydol i bwll tywod a graean Cae Efa Lwyd o'r briffordd Sirol Dosbarth 3 yn Allt Goch gyda gwaith peirianyddol cysylltiol

 

Awgrymwyd gohirio y cais gan fod angen ymdrin â chais C13/0217/22/MW  a C17/0455/22/LL gyda'i gilydd.

 

PENDERFYNWYD gohirio y cais