6 AIL FODELU'R GWASANAETH IEUENCTID PDF 339 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd
yr adroddiad ac yn awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned i gynnal ymgynghoriad
ar ffurf y Gwasanaeth Ieuenctid i’r dyfodol, gan adnabod Opsiwn 3 fel yr opsiwn
a ffafrir.
Cofnod:
Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Craig ab Iago
PENDERFYNWYD
Derbyniwyd yr adroddiad ac yn
awdurdodi Pennaeth Economi a Chymuned i gynnal ymgynghoriad ar ffurf y
Gwasanaeth Ieuenctid i’r dyfodol, gan adnabod Opsiwn 3 fel yr opsiwn a ffafrir.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd
yr adroddiad a nodwyd eu bod gofyn am ganiatâd i ymgynghori ar y model sy’n
cael ei ffafrio. Pwysleisiwyd ers Her Gwynedd fod yr adran wedi bod yn
ymgysylltu a plant a phobl ifanc. Esboniwyd mai opsiwn tri sy’n cael ei ffafrio
gan y bobl ifanc gan ei fod yn rhoi darpariaeth deg i bob person ifanc ar draws
y sir.
Nodwyd
fod cau clybiau yn digwydd ar hyn o bryd ac mae hyn o ganlyniad i broblemau
recriwtio staff. Bydd opsiwn tri yn rhoi cyfle i greu swyddi ond rhai llawn
amser a fydd yn rhoi cyfle i’r staff ddatblygu’r gwasanaeth.
Sylwadau
yn codi o’r drafodaeth
- O drafodaeth a Phobl
Ifanc nodwyd nad oedd y gwasanaeth yn ymateb i anghenion y bobl ifanc. Nodwyd
fod angen i’r gweithiwr ieuenctid fod ar gael yn ystod y dydd. Pwysleisiwyd fod
angen datblygu y defnydd o dechnoleg.
- Holwyd beth fydd rôl y
trydydd sector yn ffurf y gwasanaeth newydd sy’n mynd i ymgynghoriaeth - nodwyd
mai'r realiti yw nad oes cymaint arian a
bod angen bod yn deg a’r mudiadau sy’n derbyn a ddim yn derbyn arian. Mae
trafodaethau wedi bod gyda’r mudiadau trydydd sector. Yn ychwanegol nodwyd fod
blaenoriaethau yn mynd i fod ar anghenion y bobl ifanc ac os bydd opsiwn tri yn
cael ei dderbyn yn dilyn ymgynghoriad, y bydd y trydydd sector yn cael ei
gomisiynu i drafod meysydd penodol o’r gwasanaeth. Bydd hyn yn sicrhau fod
arbenigedd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cyfarch blaenoriaethau'r bobl ifanc.
- Pwysleisiwyd ei bod yn
bwysig fod pob person ifanc yn y sir yn cael yr un gwasanaeth ble bynnag y
maent yn byw.
Trafodwyd yr ymgynghoriad sydd am fod ar lein ond nodwyd yn glir na fydd neb yn cael ei gau allan a bydd ymgynghoriadau yn cael ei gynnal mewn dulliau gwahanol er mwyn sicrhau fod pawb yn cael y cyfle i leisio barn
Awdur: Catrin Thomas