MATERION BRYS
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Roedd
un eitem brys i’w drafod.
GORSAF REILFFORDD UCHELDIR CYMRU,
CAERNARFON
Cyflwynwyd
yr eitem gan Cyng. Dafydd Meurig
PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Cwmni
Rheilffordd Ucheldir Cymru yn dal llecyn o dir ar ffordd Santes Helen,
Caernarfon ers 1999, ar brydles gan y Cyngor am gyfnod o 1,000 o flynyddoedd.
Roedd y brydles wedi ei roi er mwyn caniatáu i’r cwmni ddatblygu rheilffordd o
Gaernarfon i Dinas, gan ddefnyddio’r llecyn i greu’r orsaf yng Nghaernarfon.
Mae cymal penodol yn y brydles yn mynnu nad
oes hawl gan y cwmni i werthu bwyd a diod ar y safle heb gael caniatâd penodol
gan y Cyngor ac y byddai taliad pellach yn daladwy gan y tenant os fyddai’r
Cyngor yn fodlon rhoi caniatâd o’r fath. Mae mecanwaith manwl yn y brydles yn
amlinellu sut y byddai’r taliad yn cael ei gyfrifo.
Mae cais wedi dod gan y cwmni yn gofyn i’r Cyngor i beidio â hawlio’r
ffi sy’n ddyledus o dan y brydles am ganiatâd o’r fath ac felly hepgor y swm
unwaith ac am byth.
Ystyriwyd y mater yma yn fater brys oherwydd gofynion amserlennu prosiect ac yn unol a pharagraff 7.25.2 o Gyfansoddiad y Cyngor a gyda chaniatâd Cadeirydd y Cyngor mae’r penderfyniad yn cael ei eithrio o’r drefn galw i mewn ac yn dod i rym ar dyddiad y cyfarfod a’r penderfyniad