6 SEFYDLU MATERION AR GYFER Y RHAGLEN WAITH PDF 111 KB
(Ynghlwm
– rhestr o eitemau a ystyriwyd gan
Pwyllgor Ardal Dwyfor 2013-17)
Cofnod:
Cyfeiriwyd at y rhestr o faterion
a drafodwyd gan y Fforwm Ardal eisoes
rhwng 2013 - 2017. Cafwyd awgrymiadau am faterion i’w ystyried yn
y cyfarfodydd am y flwyddyn.
Pwyntiau Gweithredu:
(i) Cytuno ar yr eitemau
canlynol gan ystyried eitemau eraill yn ystod
y
flwyddyn:
·
Cynllun Cyflogaeth Llŷn ac Eifionydd
·
Manteisio
ar gyfleoedd o ran yr Iaith ym
myd gwaith
·
Darpariaeth
Tai yn yr Ardal
·
Incwm
Premiwm Treth Ail-Gartrefi
·
Prinder
meddygon teulu a gweithwyr gofal yn yr ardal
·
Diwygio wardiau etholiadol
(ii) Swyddogion i ymgynghori efo’r
Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd o ran pa
eitemau y dylid cynnwys ar
raglenni’r cyfarfodydd.