skip to main content

Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 25/09/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/0437/22/LL - Tir ger Cyfnewidfa Ffôn Penygroes, Ffordd y Sir, Penygroes, Caernarfon pdf eicon PDF 344 KB

Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Judith M Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder.

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Medi 2017. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd bod gofynion cyffredinol Polisi PS3 o’r CDLl yn caniatáu cynigion isadeiledd oedd yn ceisio estyn neu wella cysylltiadau trwy gyfrwng y technolegau cyfathrebu presennol a rhai a oedd yn cael eu datblygu.

 

Eglurwyd bod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â goblygiadau datblygiad arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru oedd na ddylid bod angen i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw effeithiau iechyd na’r pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o flaen llaw os oedd y datblygiad yn bodloni gofynion y Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydriad Anïoneiddiol (ICNIRP). Derbyniwyd gwybodaeth gan yr ymgeisydd yn dangos cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma.

 

         Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Ystyriwyd y byddai’r datblygiad yn annhebygol o gael effaith amlwg hir dymor ar fwynderau gweledol yr ardal leol. Adroddwyd y derbyniwyd gwrthwynebiad hwyr o ran effaith y datblygiad ar heneb Caer Engan, ymgynghorwyd efo CADW ac fe dderbyniwyd cadarnhad nad oedd ganddynt wrthwynebiad i’r bwriad.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan aelod oedd yn gweithredu fel aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-

·         Bod y gymuned leol yn pryderu am effaith negyddol y datblygiad ac yn awyddus i’w ail-leoli;

·         Bod dyletswydd i bwyllo yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda’r angen i sicrhau anghenion tymor byr a hir dymor;

·         Cyfeirio at astudiaethau ac apeliadau oedd yn dangos effeithiau ymbelydredd electro magnetig ar iechyd. Cydnabod nad oedd materion iechyd yn ystyriaeth o ran penderfynu ar y cais;

·         Pryder o ran yr effaith weledol a’i effaith ar fusnes Pant Du a oedd yn atyniad ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr;

·         Pryder y byddai mast newydd diwydiannol amlwg yn effeithio ar gais Llechi Cymru am statws Safle Treftadaeth y Byd (UNESCO);

·         Bod Grŵp Cynefin efo cynllun i ddatblygu tai ger y safle a’u bod yn gwrthwynebu’r bwriad. Gallai caniatáu’r cais atal y cynllun;

·         Yn unol â diwylliant Ffordd Gwynedd dylid gwrando ar sylwadau trigolion a gwrthod y cais yn y lleoliad yma.

 

(c)     Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Gyfreithiwr ei fod yn gwerthfawrogi sylw’r aelod bod y Pwyllgor yn y cyd-destun cynllunio wedi eu clymu o ran materion iechyd.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 04/09/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/0437/22/LL - Tir ger Penygroes Telephone Exchange, Ffordd Y Sir, Penygroes, Caernarfon pdf eicon PDF 347 KB

Gosod mast telethrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Judith M Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

         Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder

 

    Roedd yr Aelodau wedi ymweld â’r safle.

 

Tynnwyd sylw at ddeiseb oedd wedi ei chyflwyno oedd yn cyfeirio ar faterion tebyg i’r hyn oedd eisoes wedi ei gyflwyno ynghyd â sylwadau ar lafar gan Gwarchod y Cyhoedd.

 

(a)       Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor Cynllunio 3.7.17 er mwyn i’r Aelodau ymweld â’r safle cyn gwneud penderfyniad. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol. Eglurwyd bod tai preswyl yr ochr bellaf i’r ffordd gyhoeddus i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a’r dwyrain gyda’r canlynol gerllaw, Ysgol Gynradd Bro Lleu, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a Chanolfan Hamdden Plas Silyn.

 

          Nodwyd o’r wybodaeth a gyflwynwyd mai’r bwriad oedd cyflawni amcan y Llywodraeth i ddarparu cyflenwad signal 4G ble nad yw’n bodoli eisoes mewn ardaloedd gwledig.

 

Mewn ymateb i’r pryderon a leisiwyd ym Mhwyllgor 3.7.17, cyflwynodd yr ymgeisydd wybodaeth ychwanegol oedd yn cyfiawnhau lleoli'r mast ar y safle penodol yma ac roedd y rhain wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Amlygwyd hefyd bod ‘Declaration of Conformity with the International Commision on Non-Ionizin Radiation Protection (ICNIRP) Public Exposure Guidelines’ wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais gerbron, oedd yn cadarnhau fod y datblygiad wedi ei ardystio i gydymffurfio a chanllawiau’r ‘ICNIRP’ sef canllaw cydnabyddedig ar gyfer y math yma o ddatblygiad.

 

          Derbyniwyd gwrthwynebiad ar sail pryder am effaith y datblygiad ar iechyd, ac yn benodol ar iechyd plant yn y Feithrinfa, yr Ysgol Gynradd a’r Ysgol Uwchradd gerllaw ynghyd â defnyddwyr Canolfan Hamdden Plas Silyn.

 

Er y cydnabuwyd fod pryder wedi ei godi ynglŷn ag effaith posib ar iechyd, ni ystyriwyd fod y bwriad yma yn groes i’r polisïau cenedlaethol na’r CDLL ac nad oedd angen rhagor o wybodaeth i asesu effaith posib y datblygiad.  Nodwyd bod Polisi Cynllunio Cymru yn datgan yn glir mewn perthynas â goblygiadau datblygiad arfaethedig o’r fath i iechyd mai barn Llywodraeth Cymru yw na ddylid bod angen i awdurdodau cynllunio lleol ystyried ymhellach unrhyw effeithiau iechyd na’r pryderon amdanynt wrth brosesu cais am ganiatâd cynllunio neu gymeradwyaeth o flaen llaw os yw’r datblygiad yn bodloni gofynion ICNIRP.

 

          Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Eglurwyd bod y tai preswyl agosaf rhwng oddeutu 50m a 90m i ffwrdd o safle’r cais i gyfeiriadau gwahanol a chydnabuwyd y byddai’r math yma o ddatblygiad yn anorfod yn cael rhywfaint o effaith weledol ar y tai agosaf yma, ond ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn sylweddol. Nodwyd bod nifer o strwythurau main ag uchel yn bodoli eisoes yn yr ardal, megis polion trydan a golau stryd a gyda’r strwythur yma yn un main  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5


Cyfarfod: 03/07/2017 - Pwyllgor Cynllunio (eitem 5)

5 Cais Rhif C17/0437/22/LL - Tir ger Cyfnewidfa Ffôn Penygroes, Ffordd y Sir, Penygroes, Caernarfon pdf eicon PDF 343 KB

Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd a ffens diogelwch 1.8 o uchder.

 

AELOD LLEOL:        Cynghorydd Judith Humphreys

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Gosod mast telathrebu 21m o uchder gan gynnwys gorsaf radio, 3 antena, 2 gabinet offer, cyfarpar offer cysylltiedig ynghyd â ffens diogelwch 1.8 o uchder.

        

(a)     Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli ar gyrion Penygroes i gefn safle cyfnewidfa ffôn a oedd yn cynnwys adeilad unllawr parhaol. Eglurwyd bod tai preswyl yr ochr bellaf i’r ffordd gyhoeddus i gyfeiriad y gogledd, gorllewin a’r dwyrain gyda’r canlynol gerllaw, Ysgol Gynradd Bro Lleu, Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle a Chanolfan Hamdden Plas Silyn.

 

Nodwyd bod polisi CH20 o’r CDUG yn caniatáu cynigion ar gyfer seilwaith newydd ac offer telathrebu yn ddarostyngedig i ystyriaeth lawn o feini prawf penodol. Adroddwyd bod yr ymgeisydd wedi nodi o fewn dogfennau’r cais cynllunio y rhesymau pam fod y lleoliad yma wedi ei ddewis ar gyfer y datblygiad, gan nodi ei fod yn rhan o amcan y Llywodraeth i ledaenu signal ffon 4G i lefydd ble nad oedd yn bodoli’n barod, ac yn benodol ardaloedd gwledig.

 

Derbyniwyd gwrthwynebiad ar sail pryder am effaith y datblygiad ar iechyd, ac yn benodol ar iechyd plant yn yr Ysgol Gynradd gerllaw. Nodwyd bod maen prawf rhif 3 o bolisi CH20 yn sicrhau bod datblygiadau arfaethedig yn bodloni canllawiau’r Comisiwn Rhyngwladol ar Amddiffyn rhag Ymbelydriad Anïoneiddiol (ICNIRP). Derbyniwyd gwybodaeth yn dangos cydymffurfiaeth gyda’r safonau yma. Er y cydnabuwyd fod pryder wedi ei godi ynglŷn ag effaith posib, ni ystyriwyd fod y bwriad yn groes i’r polisïau cenedlaethol na’r Cynllun Unedol ac nid oedd angen rhagor o wybodaeth i asesu effaith posib y datblygiad.

 

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd ei fod yn anorfod y byddai’r prif strwythur arfaethedig yn rhannol weladwy o fannau cyhoeddus oherwydd yr angen iddo fod mewn lleoliad weddol agored er mwyn sicrhau y byddai’n gweithio i’w gapasiti llawn. Roedd y tai preswyl agosaf rhwng oddeutu 50m a 90m i

         ffwrdd o safle’r cais i gyfeiriadau gwahanol, cydnabuwyd y byddai’r math yma o ddatblygiad yn anorfod yn cael rhywfaint o effaith weledol ar y tai agosaf yma, ond ni ystyriwyd y byddai’r effaith yn sylweddol yn yr achos yma.

 

         Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-

·         Ei fod yn Bennaeth Ysgol Bro Lleu a bod pryder o ran agosatrwydd y mast i’r ysgol a’r effaith y gallai gael ar y plant;

·         Byddai’r stad ddiwydiannol yn gallu cuddied y bwriad yn well;

·         Ddim yn ymwybodol o wir effaith datblygiad o’r fath, a oedd datblygiadau tebyg wrth ymyl ysgolion eraill?

·         Bod rhieni yn pryderu gyda rhai yn bygwth symud plant o’r ysgolion;

·         Bod Cartrefi Cymunedol Gwynedd ar fin gwneud cais cynllunio ar dir wrth ymyl ac yn bygwth tynnu allan os caniateir y datblygiad yma;

·         Pryderu o ran effaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5