8 DIOGELU A ROL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU PDF 175 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dilwyn Morgan
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cymeradwyo ehangu gwaith y Panel Strategol Diogelu i gynnwys gofynion ar yr
Awdurdod sydd yn ymwneud a gwrthderfysgaeth, caethwasiaeth fodern, trais yn y
cartref a diogelwch cymunedol.
Dirprwyo’r hawl i’r Panel Strategol Diogelu i adolygu a chytuno newidiadau
angenrheidiol i’r Polisi Diogelu Corfforaethol yn deillio o fabwysiadu’r newid
i’r cylch gorchwyl.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn
PENDERFYNIAD
Cymeradwyo ehangu gwaith y Panel Strategol Diogelu i gynnwys gofynion ar yr
Awdurdod sydd yn ymwneud a gwrthderfysgaeth, caethwasiaeth fodern, trais yn y
cartref a diogelwch cymunedol.
Dirprwyo’r hawl i’r Panel Strategol Diogelu i adolygu a chytuno newidiadau
angenrheidiol i’r Polisi Diogelu Corfforaethol yn deillio o fabwysiadu’r newid
i’r cylch gorchwyl.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet a pwysleisiwyd pwysigrwydd y gwaith o
fewn y Cyngor. Mae trefniadau’r presennol o ran diogelu ac yn benodol
cyfrifoldeb gorfforaeth i ymarfer ei ddyletswydd i ddiogelu wedi bod yn eu lle
ers rhyw bedair blwynedd. Mae’r panel wedi bod yn gwneud cynnydd da o ran
ymwybyddiaeth a dealltwriawth o faterion diogelu ar draws y Cyngor.
Nodwyd yn syml fod yr adroddiad yn holi am ganiatâd i ehangu sgôp y y
panel. Pwysleiswyd fod hyn yn amser gan fod newididau o ran trefniadau
rhanbarthol a newidiadau deddfwriaethol sydd yn digwydd ar hyn o bryd.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
-
Nodwyd fod hwn yn gyfle i fantesio
ar eghanu cyfrifoldebau a lleihau dybylgu yn y maes diogelu.
-
Trafodwyd y gwahaniaeth rhwng y
Panel Strategol Diogelu a’r Panel Gweithredol Diogelu a nodwyd mai swyddogion y
cyhoedd sydd yn rhan o’r panel gweithredol er mwyn sicrhau fod y gwaith yn cael
ei wneud.
-
Mynegwyd balchder at y sylw i
ddiogelu plant a oedolion bregus ac fod rôl staff o fewn y Cyngor wedi ei
amygu.
Awdur: Morwena Edwards