9 ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2016/17 PDF 180 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac
Oedolion.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd yr adroddiad blyneddol ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant
ac Oedolion.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet sydd a’i bwrpas o ddiweddaru yr hyn sydd
wedi ei gyflawni gan y Panel Strategol Diogelu dros y flwyddyn. Diolchwyd i’r
Cyng. Mair Rowlands am gadeirio ac i Cyng. Gareth Thoams a Cyng. W Gareth
Roberts am fod yn aelod o’r Panel.
Nodwyd fod gwaith da wedi ei wneud yn codi ymwybyddiaeth staff o waith
diogelu plant ac oedolion bregus. Yn ychwanegol pwyslesiwyd fod arolygiaeth gan
gyrff allanol wedi nodi twf yng nghwaith y panel. Trafodwyd nod panel i’r dyfodol ac diolchwyd am ddod a
maesydd ychwanegol sydd angen sylw i mewn i waith ac rhaglen y panel.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
-
Croesawyd y syniad fod yr eitem gael ei lle ar raglen y
Cyngor Llawn er mwyn i’r holl aelodau fod yn ymwybodol o’r gwaith mae’r panel
yn ei wneud.
-
Holwyd fod y AGGCC wedi nodi fod newidiadau cyffroes –
holwyd beth oedd y newidiadau yma. Pwyslesiwyd fod hyn o ganlyniad i newidiadau
yn y maes oedolion o ganlyniad i dwf mewn cyfeiriadau drwy fuddsoddi mewn tim a
fydd yn sicrhau ansawdd.
Awdur: Morwena Edwards