Mater - cyfarfodydd

Cyfarfod: 27/06/2017 - Y Cabinet (eitem 7)

7 DARPARIAETH TOILEDAU CYHOEDDUS YNG NGHWYNEDD pdf eicon PDF 75 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Griffith

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Cyflawni’r toriad o £244,000 yn y gwasanaeth dryw wireddu’r Cynllun Partneriaethau gyda Chynghorau Cymuned a Thref er mwyn cadw’r mwyafrif o doiledau cyhoeddus presennol y Sir yn agored i’r dyfodol
  2. I gau'r toiledau hynny lle nad oes bwriad neu ddiddordeb gan y gymuned i gyfrannu a phartneriaeth erbyn 1 Hydref 2017

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

 

  1. Cyflawni’r toriad o £244,000 yn y gwasanaeth dryw wireddu’r Cynllun Partneriaethau gyda Chynghorau Cymuned a Thref er mwyn cadw’r mwyafrif o doiledau cyhoeddus presennol y Sir yn agored i’r dyfodol
  2. I gau'r toiledau hynny lle nad oes bwriad neu ddiddordeb gan y gymuned i gyfrannu a phartneriaeth erbyn 1 Hydref 2017

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet gan nod fod yr eitem wedi bod yn cael ei drafod ers dros flwyddyn. Yn dilyn ymarferiad Her Gwynedd, bu i’r Cyngor Llawn ym Mawrth 2016 argymell gwneud toriad a oedd yn golygu cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y Sir. Yn dilyn hyn bu i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau argymell i’r Cabinet i addasu’r penderfyniad drwy yn gyntaf ymgeisio i sefydlu partneriaethau gyda’r cymunedau lleol er mwyn osgoi cau’r cyfleusterau tra’n cyflawni’r un swm o doriad.

 

Nodwyd mewn gwireddu’r Cynllun Partneriaethu rhagwelir gallu cadw o leisaf 51 o doiledau yn agored drwy gefnogaeth a chydweithrediad Cynghoriau Cymuned a Thref. Pwysleiswyd fod angen cyflawni’r toriad ac y bydd angen cau y toiledau ble nad oes bwriad neu ddiddordeb gan y gymuned i gyfranu a phartneriaethu. Nodwyd fod bwriad i barhau i drafod gyda’r Cynghorau Cymuned a Thref hyd fis Hydref er mwyn creu y partneriaethu  i geisio cadw mwy  o doiledau yn agored.

 

Adroddwyd fod un newid i’r atodiad fod trafodaethau yn parhau ym Mhenygroes. Ychwanegwyd fod deiseb wedi ei derbyn o Dywyn wedi arwyddo gan 1,000 o bobl.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth

-        Nodwyd fod neges cadarnhaol fod cymaint o gynghorau cymuned a thref yn barod i barteneriaethu ac i weithio gyda’i gilydd i barhau y gwasanaeth.

-        Pwysleswyd fod ya sefyllfa yn edrych yn llawer gwell nac yr oedd hi yn Mawrth 2016 ac nodwyf ei bod yn ganmoladwy gweld Cynghroau Cymuend yn barod i weithio mewn ffordd wahanol.

-        Nodwyd fod balchder yn mewnbwn y Pwyllgor Craffu Cymunedau sydd wedi arwain er mwyn cadw’r toiledau ar agor.

 

Awdur: Gwyn Morris Jones