7 DARPARIAETH TOILEDAU CYHOEDDUS YNG NGHWYNEDD PDF 75 KB
Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Gareth Griffith
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Gareth Griffith
PENDERFYNIAD
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet gan nod fod yr eitem wedi bod yn cael
ei drafod ers dros flwyddyn. Yn dilyn ymarferiad Her Gwynedd, bu i’r Cyngor
Llawn ym Mawrth 2016 argymell gwneud toriad a oedd yn golygu cau 50 allan o 73
o doiledau cyhoeddus y Sir. Yn dilyn hyn bu i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau
argymell i’r Cabinet i addasu’r penderfyniad drwy yn gyntaf ymgeisio i sefydlu
partneriaethau gyda’r cymunedau lleol er mwyn osgoi cau’r cyfleusterau tra’n
cyflawni’r un swm o doriad.
Nodwyd mewn gwireddu’r Cynllun Partneriaethu rhagwelir gallu cadw o leisaf
51 o doiledau yn agored drwy gefnogaeth a chydweithrediad Cynghoriau Cymuned a
Thref. Pwysleiswyd fod angen cyflawni’r toriad ac y bydd angen cau y toiledau
ble nad oes bwriad neu ddiddordeb gan y gymuned i gyfranu a phartneriaethu.
Nodwyd fod bwriad i barhau i drafod gyda’r Cynghorau Cymuned a Thref hyd fis
Hydref er mwyn creu y partneriaethu i
geisio cadw mwy o doiledau yn agored.
Adroddwyd fod un newid i’r atodiad fod trafodaethau yn parhau ym
Mhenygroes. Ychwanegwyd fod deiseb wedi ei derbyn o Dywyn wedi arwyddo gan
1,000 o bobl.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
-
Nodwyd fod neges cadarnhaol fod
cymaint o gynghorau cymuned a thref yn barod i barteneriaethu ac i weithio
gyda’i gilydd i barhau y gwasanaeth.
-
Pwysleswyd fod ya sefyllfa yn
edrych yn llawer gwell nac yr oedd hi yn Mawrth 2016 ac nodwyf ei bod yn
ganmoladwy gweld Cynghroau Cymuend yn barod i weithio mewn ffordd wahanol.
-
Nodwyd fod balchder yn mewnbwn y
Pwyllgor Craffu Cymunedau sydd wedi arwain er mwyn cadw’r toiledau ar agor.
Awdur: Gwyn Morris Jones