Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is KeyPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfyniad:
Penderfynwyd gweithredu
argymhellion ymchwiliad gweithgor Pwyllgor Craffu Cymunedau sy'n cynnwys y canlynol
- Defnyddio pwerau Deddf Gwarchod yr Amgylchedd (1990) Adrannau 46 i
47ZA sy’n ymwneud a chynhwysyddion gwastraff, i ddirwyo trigolion a
busnesau sy’n gwaredu eu gwastraff ar y diwrnod anghywir neu yn y ffordd
anghywir fel mater o flaenoriaeth
- Ymgymryd ag ymgyrch hyrwyddo sirol i godi ymwybyddiaeth o’r
trefniadau gwastraff ac ailgylchu gyda ffocws penodol ar Ddinas Bangor a
chydnabod y gwahaniaethau daearyddol a demograffig yn y sir ar wahanol
adegau o’r flwyddyn.
- Gosod sticeri “QR code” ar gynhwysyddion ailgylchu er mwyn darparu
mynediad 24 i drigolion ar eu diwrnodau casglu gwastraff c ailgylchu a
gwybodaeth am eitemau y gellir eu hailgylchu.
- Ffurfioli trefniadau cydweithio rhwng Adrannau’r Cyngor.
- Cynyddu ymwybyddiaeth o’r Gwasanaeth Casgliadau Clinigol a’r
Gwasanaeth Casglu Arbennig sydd ar gael i helpu pobl hyn a phobl anabl i
waredu eu gwastraff. Bydd modd gwneud hyn fel rhan o’r ymgyrch hyrwyddo
ehangach.
- Hyrwyddo rhwydwaith presennol o Ganolfannau Ailgylchu a chynnal
ymgyrch benodol ar gyfer y Gwasanaeth Casglu Gwastraff Swmpus.
Dyddiad cyhoeddi: 17/09/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/09/2019 - Y Cabinet
Dogfennau Cefnogol: