Statws Penderfyniad: Caniatawyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Na
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na
Penderfynwyd
fod:
I.
Cyfarfod sydd wedi
ei amserlenu o’r
Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cytuno ar restr fer o
ymgeiswyr i’w gwahodd ar gyfer ystyriaeth bellach.
II.
Pob ymgeisydd ar y
rhestr fer yn cael eu gwahodd i fynychu Canolfan Asesu Broffesiynol. Bydda’i
Ganolfan Asesu yn cael ei harwain gan asesydd allanol a ddefnyddir gan y Corff
Atebol ar gyfer penodi i uwch swyddi. Bydd yr asesydd yn darparu adroddiad
ysgrifenedig ar berfformiad pob ymgeisydd.
III.
Cyfweliad
ffurfiol gyda phob ymgeisydd ar y rhestr fer mewn cyfarfodydd ychwanegol o’r
Bwrdd i’w drefnu gydag adborth o’r Ganolfan Asesu i’w ddarparu yn y cyfarfod
cyn gwneud y penodiad.
IV.
Cytunwyd,
yn dilyn asesiad swydd, y bydd y swydd yn cael ei hysbysebu gyda’r cyflog o
£86,000 i £96,000, gyda’r hyblygrwydd o ychwanegiad y farchnad os y byddai
ymgeisydd arbennig yn ymgeisio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2019
Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/03/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
Dogfennau Cefnogol: