Manylion y penderfyniad

Statws Penderfyniad: Caniatawyd

Is KeyPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

     I.        Derbyn a mabwysiadu Cyllideb y Bwrdd Uchelgais Economaidd ar gyfer 2019/20, wedi’i rannu rhwng costau’r Swyddfa Rheoli Rhaglen, Gwasanaethau Cefnogol y Corff Atebol a’r Cydbwyllgor.

    II.        Cymeradwyo’r trefniadau ac ariannu i Gyngor Gwynedd gyflawni swyddogaethau’r Corff Atebol, fel y nodir yn yr adroddiad.

  III.        Dirprwyo’r awdurdod i’r Cyfarwyddwr Rhaglen a Swyddog Adran 151 Cyngor Gwynedd i weithredu’r gyllideb a gymeradwyir.

  IV.        Cymeradwyo i drosglwyddo’r tanwariant o’r cyn trefniadau cysgodol i Gydbwyllgor y Bwrdd Uchelgais Economaidd.

   V.        Cymeradwyo i drosglwyddo’r tanwariant ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2018/19 i gronfa wrth gefn neilltuol, fydd ar gael i ariannu costau un-tro yn y dyfodol.

 

Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2019

Dyddiad y penderfyniad: 15/03/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/03/2019 - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Dogfennau Cefnogol: