Manylion y penderfyniad

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cabinet

Statws Penderfyniad: Er Penderfyniad

Is AllweddolPenderfyniad?: Na

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Na

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2017) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef:

 

  • cynnydd £136,000 mewn defnydd o fenthyca heb gefnogaeth
  • cynnydd £190,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau
  • cynnydd £319,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf
  • cynnydd £136,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw
  • lleihad £297,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu

 

Cymeradwyo’r dyraniad o £100,000 ar gyfer gwaith rhagbaratoi a chynllunio i adolygu’r ddarpariaeth addysg yn ardal Bangor, i’w ariannu o arian sydd eisoes wedi ei dderbyn yn sgil taliadau cytundeb 106 gan gwmni Redrow, ynghlwm i safleoedd datblygu tai ym Mangor. Bydd hyn yn golygu cynnydd o £100,000 yn y rhaglen gyfalaf 2017/18.

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/06/2017

Dyddiad y penderfyniad: 06/06/2017

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 06/06/2017 - Y Cabinet

Dogfennau Cefnogol: