Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Richardson 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

Ymddiheuriadau

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Ymddiheuriadau –

Cyng. Alan Jones Evans – eitem 6

Yr Aelodau Lleol canlynol yn ymddiheuro a datgan buddiant ar eitem 6 – Cyng. Dilwyn Morgan ac Elwyn Edwards.

Arwyn Thomas (Prif Swyddog Addysg).

 

2.

Datgan Buddiant Personol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Petai wedi bod yn bresennol roedd Arwyn Thomas (Prif Swyddog Addysg) yn datgan buddiant ar eitem 6 ac ni fyddai wedi cymryd rhan yn y drafodaeth.

 

 

 

3.

Materion Brys

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys

4.

Materion yn codi o Bwyllgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu

5.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19eg o Fai 2015 pdf eicon PDF 204 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Mai 2015.

 

6.

Dyfodol Darpariaeth Addysg yn Nalgylch Ysgol y Berwyn - penderfyniad ar rybudd statudol pdf eicon PDF 271 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas.

Eiliwyd gan y Cyng. Dyfrig Siencyn.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo’r cynnig i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol y Berwyn ar 31 Awst 2018 a sefydlu Campws Dysgu 3-19 Cyfrwng Cymraeg statws Gwirfoddol a Reolir, (VC), ar safle presennol Ysgol y Berwyn i agor ar 1 Medi 2018.

 

Cymeradwyo cyhoeddi rhybuddion statudol ar y cynnig yn (i) uchod yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

 

Yn dilyn ystyried sylwadau’r ymgynghoriad yn gysylltiedig â phwysigrwydd penodi pennaeth a’r angen iddo gael ei benodi o flaen amser, cymeradwyo penodi a chyllido pennaeth y Campws Dysgu 3-19 o arbedion y cynllun, am o leiaf blwyddyn cyn agor yr ysgol ym Medi 2018.

 

7.

Cyfrifon Terfynol 2014/15 - Alldro Refiniw pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

Eiliwyd gan y Cyng. W Gareth Roberts.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo sefyllfa ariannol derfynol 2014/15 er mwyn galluogi’r Adran Gyllid i symud ymlaen a chynhyrchu’r datganiadau ariannol statudol ardystio gan y Pennaeth Cyllid erbyn 30 Mehefin a’u cyflwyno i’w craffu gan y Pwyllgor Archwilio ar 16 Gorffennaf 2015.

 

Cymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef –

 

 ADRAN

£’000

Oedolion, Iechyd a Llesiant

0

Plant a Theuluoedd

(100)

Addysg

3

Economi a Chymuned

(60)

Priffyrdd a Bwrdeistrefol

(49)

Rheoleiddio

40

Ymgynghoriaeth Gwynedd

(21)

Adran y Prif Weithredwr

(64)

Cyllid

(38)

Adnoddau Dynol

(64)

Strategol a Gwella

(94)

Cyllidebau Corfforaethol

0

 

Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (amlinellwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad i’r cyfarfod)

·                     Gan fod y lefel o danwariant caniateir i’w gario ymlaen wedi’i gyfyngu i (£100k), cadarnhau fod y (£255k) sy’n weddill o’r Adran Plant i’w ryddhau a’i ail-gylchu ar gyfer delio gyda diffyg mewn adran arall.

 

·                     Clirio gorwariant yr Adran Oedolion, a'i ariannu drwy:-

o    all gyfeirio tanwariant (£255k) roedd uwchben y trothwy (£100k);

o    defnyddio (£113k) o falansau cyffredinol.

 

·                     Defnyddio (£235k) pellach o'r balansau cyffredinol er mwyn clirio’r diffyg net ar benawdau ‘Corfforaethol’.

 

Nodi’r gostyngiad yn lefel y cyfanswm o gronfeydd penodol (defnyddio’r cronfeydd i’r pwrpasau neilltuwyd), a’r gostyngiad yn lefel balansau cyffredinol y Cyngor (yn unol â’r Strategaeth Ariannol yn ogystal â’r uchod) yn ystod 2014/15.

 

8.

Rhaglen Gyfalaf 2014/15 - 2016/17 pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Peredur Jenkins.

Eiliwyd gan y Cyng. Dafydd Meurig.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd blwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2015) o’r rhaglen gyfalaf, a chymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 2.2 – 2.5 o’r adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod, sef:

• lleihad £478,000 yn yr angen am grantiau a chyfraniadau;

• cynnydd £17,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf;

• lleihad £195,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw;

• cynnydd £169,000 mewn defnydd o gronfeydd.

 

9.

Cydleoli Llyfrgell Porthmadog a Chanolfan Hamdden Glaslyn pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.

Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

PENDERFYNIAD

 

Cefnogi adleoli Llyfrgell gyhoeddus Porthmadog yng Nghanolfan Hamdden Glaslyn gyda chymorth grant Llywodraeth Cymru.

 

Cymeradwyo defnyddio holl dderbyniadau cyfalaf gwerthiant yr adeilad Llyfrgell bresennol tuag at gostau addasu'r Ganolfan Hamdden.