skip to main content

Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Bethan Richardson 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan yr Aelodau Lleol canlynol ar gyfer Eitem 6 –

Elwyn Edwards

Alan Jones Evans.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan fuddiant personol yn Eitem 6 ar y rhaglen (Dyfodol Darpariaeth Addysg yn Nalgylch Ysgol y Berwyn), oherwydd bod ei Ŵyr yn ddisgybl yn Ysgol Bro Tegid.

 

Roedd yr aelodau o’r farn ei bod yn fuddiant oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth yr eitem.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

4.

Materion yn codi o Bwyllgorau Craffu

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Nid oedd unrhyw faterion yn codi o Bwyllgorau Craffu

 

5.

Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar y 30ain o Orffennaf 2015 pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2015.

 

6.

Dyfodol Darpariaeth Addysg yn Nhalgylch Ysgol y Berwyn pdf eicon PDF 197 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Gareth Thomas.

Eiliwyd gan y Cyng. W Gareth Roberts.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Gweithredu ar y cynnig i gau Ysgol Bro Tegid, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Y Berwyn, yn nhref Y Bala ar 31 Awst 2018 a sefydlu Campws Dysgu 3-19, Cyfrwng Cymraeg1, Gwirfoddol a Reolir, (VC, Eglwys yng Nghymru), (“Y Campws”), ar safle presennol Ysgol Y Berwyn i agor ar 1 Medi 2018.

 

2.    Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad o berfformiad yr ysgol fydd yn cynnwys ansawdd yr addysg a ddarperir, cynnydd addysgol, profiadau diwylliannol a chymdeithasol y disgyblion, y defnydd o adnoddau, ac unrhyw effaith y categori Gwirfoddol a Reolir, (VC, Eglwys yng Nghymru), ar yr uchod wedi dwy flynedd o ddyddiad agor y Campws. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghori gyda rhieni, darpar-rieni a thrigolion yr ardal er mwyn dod i farn ar briodoldeb yr addysg a’r statws eglwysig.

 

7.

Adroddiad Blynyddol Cyngor Gwynedd 2014-15 pdf eicon PDF 68 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dyfrig Siencyn.

Eiliwyd gan y Cyng. Gareth Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Argymell i’r Cyngor Llawn eu bod yn mabwysiadu adroddiad perfformiad Cyngor Gwynedd 2014/15

 

8.

Ysgol Llanegryn Trust pdf eicon PDF 60 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Dafydd Meurig.

Eiliwyd gan y Cyng. W Gareth Roberts.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Gweithredu fel Ymddiriedolwyr Ysgol Rydd Llanegryn, gan gymeradwyo penderfyniad i wneud cais i’r Comisiwn Elusennau er mwyn newid amcanion Ymddiriedolaeth Ysgol Rydd Llanegryn, a galluogi’r Cyngor i werthu’r safle.

 

2.     Gwyro oddi wrth y Rheolau Gweithdrefn Ariannol arferol a defnyddio’r cyfan o’r derbyniad cyfalaf a ddaw o waredu hen Ysgol Rydd Llanegryn ar wariant yn y dyfodol er mwyn parhau i hyrwyddo pwrpas yr Ymddiriedolaeth.

 

9.

Betsi Cadwaladr University Health Board Consulation pdf eicon PDF 67 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. W Gareth Roberts.

Eiliwyd gan y Cyng. Mandy Williams-Davies.

 

PENDERFYNIAD

 

1.     Mae’r Cabinet yn nodi, ar y cyfan, mai Opsiwn 4 yn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r cyfarfod fyddai’n cael y lleiaf o effaith o ran mynediad trigolion Gwynedd at wasanaeth.

 

2.     Mae’r Cabinet yn hyderus y bydd y penderfyniad clinigol gorau yn cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd i ddatrys y pryderon cyfredol, ond rydym fel Cyngor yn awyddus i sicrhau datrysiad mwy lleol yn yr hir dymor.